31.8.04

HOUSE!

Oce, dyw hyn ddim wir yn gysylltiedig a sin gerddorol y brifddinas, ond mae'n kind of cyfri fel arbrawf i weld be sy gan Caerdydd i gynnig o rhan 'alt' nightlife! Am be wy'n mwydro? Bingo wrth gwrs!
Yn sicr, fe gofiai'r hanner awr yna Nos Sadwrn diwetha yn Castle Bingo Treganna fel un o brofiadau mwya swreal fy mywyd! Heblaw'r ffaith fod gen i ddim clem be oedd yn mynd mlaen (bu'n rhaid i ffrind sibrwd i mi mod i ar y dudalen anghywir rhyw gwarter awr cyn i ni fenni) roedd y lleoliad, y cysyniad a'r gynnulleidfa oll yn cyfuno i greu'r fath olygfa nes mod i'n teimlo mod i mewn out-take o rhyw sit-com o'r saithdegau - y fath sy mor wael mae'n dda. Ac er fy nryswch llwyr bobl, roedd hyn MOR DDA - hyd yn oed y ffeit dorrodd allan rhwng bwrdd o 'hens' (hawlfraint: yr arwyddion neon i'r tai bach) oedd yn amlwg yn Fingo-wyr o fri, a'r criw cegog o ymhonwyr ifanc cafodd eu cludo o'r neuadd.
'Nath neb o'nghriw i ennill swllt, ond oh, rwy'n berson cyfoethocach ers bod!





30.8.04

Pen-blwydd Hapus i Abri!

Gan bo ni'n son am gigs, well i mi nodi gymaint o lwyddiant fuodd parti pen-blwydd Abri Nos Wener diwetha. O'n i heb ddisgwyl cynhesu rhyw lawer i Mwsog, ond ces fy siomi ar yr ochr orau gan y set agoriadol, ac o hynny allan 'mond gwella wnaeth y nos! Er mod i'n mwynhau clywed Kentucky AFC bob tro, roedd y set acwstig yn chwa o awyr hynod adfywiol, ac am Drymbago... o'n nhw'n WYCH - er dyw dweud hynny ddim i weld yn ddigon.

Dyma ambell i lun i brofi'r pwynt...






26.8.04

Noson Lawnsio Tu Chwith

L L I W I A U

Reit te, odd hi'n hen bryd trefnu digwyddiad arall draw'n y Goat, felly dyma gyflwyno lawnsiad cyfrol Haf Tu Chwith, ar y thema 'Lliwiau'. Bydd caneuon acwstig a darlleniadau lliwgar ar y noson gan Mattoidz, Gwyneth Glyn, Ashokan, Fflur Dafydd ac eraill. Mynediad am ddim fel arfer, a mae'r cyfan yn debyg o gychwyn tua 7.30 y.h. Croeso i chi ddod mewn gwisg ffansi - mor lliwgar a phosib wrth gwrs.




Haia bawb

Blog fach Cymraeg arall i chi - be 'llai weud, mae'n ymddangos mai blogio YW'r symud i Gaerdydd newydd... wel, falle ddim! Eniwe, o'n i am gychwyn dalen fach o fwydrings cyffredinol fydd hefyd yn gofnod o ddigwyddiadau'n y 'rhen dafarn giwt 'na sy o mor annwyl i mi - Y Goat Major Caerdydd. Yn y fan, falle lwyddai bostio llun neu ddau hefyd - ond peidiwch a disgwyl gormond!

Reit - i gychwyn, 'nai rhuthro drwy hanes (byr) y nosweithi Cymraeg (/eig) ni'n trefnu. Syniad Yazmin, y dafarnwraig, oedd y cyfan - mae hi'n dysgu ar hyn o bryd, ac roedd hi am sicrhau fod cyd-destun ganddi i ymarfer ei Chymraeg yn gymdeithasol. Gan fy mod i a Catrin wedi arfer gwethio yn un o'r tafarndai cyfagos, ro'n ni wrth ein boddau i helpu (ac i sicrhau fod y nosweithi'n llwyfannu'r fath o adlonioant o'n ni am wled) ac ar Medi'r 5ed, cynhaliwyd y gig cyntaf gyda perfformiad gan Gwmni drama 3D, setiau acwstig gan Mattoidz ac Ashokan, a set DJ gan Ian Cottrell - Roedd hi'n noson ANHYGOEL, mor anhygoel aethon ni ati i drefnu mwy...

Ers hynny, ry'n ni 'di cynnal Noson Gymreig bob wythnos ar Nos Fercher - gyda cerddoriaeth yr SRG'n chwarae 'n y cefndir a ballu, ac ambell i gig...

28/07/04 - Bwcibo, 3D, Carwyn Fowler
21/07/04 - 'king Biwt a Ian Cottrell
20/06/04 - Artistiaid Amrywiol
16/06/04 - Acoustique a Hefin Mattoidz
05/05/04 - 3D, Mattoidz, Ashokan

Ma pob Noson hyd yn hyn 'di bod yn lwyddiant aruthrol - Diolch mawr i'r artistiaid sy wastad mor barod i helpu, i'r criw ffyddlon sy'n dod i wrando a mwynhau, i Unarddeg am arddangos fy mhosteri Ysgol Meithrin-aidd, porwyr Maes-e am odde'r plygio a'n ola pwy bynnag am yr adolygiad. Caru chi gyd!

Cheers

'Na ni am y tro te, croeso mawr!