30.9.04

S'digwydd...

Mae'r trefniadau'n siapo ar gyfer cwis y Goat wythnos nesaf - mae'r cwestiynnau wedi eu sgwennu a'r posteri wedi eu gosod, a neithiwr es i a Geraint draw i ôl y PA oddi-wrth Hefin Mattoidz, a dysgu (gobeithio!) sut mae defnyddio'r peth! Ma 'na gryn diddordeb wedi bod, felly gobeithio fydd hi'n noson lwyddiannus. Just i gonfyrmio'r cwbwl:

CWIS DAFARN GYMRAEG

6/10/04 TAFARN y GOAT MAJOR - 8.30 yh

£1 I GYSTADLU/ CRÂT O GWRW CARREG I'R TÎM BUDDUGOL

*Set gan DJs N*Y*R*D i ddilyn*


Mewn newydd arall...
Be wy di bod yn 'neud? Wel diolch am ofyn ;) I dreulio'r oriau'n gwaith wy di bo'n potchan ar y wê fwy nag erioed wythnos yma - y hobi diweddara yw pipo ar 'y'mhroffeil a gweld os oes unrhyw gysylltiadau eraill rhynghtho fi a pwy bynnag arall sy'n digwydd hoffi, gwedwch, Pep le Pew [does neb :-( ]
Ma gwneud hyn wedi'nghyflwyno i i ambell i flog diddorol - megis eksistence, blog Soren o Ganada, sydd a safbwynt diddorol iawn, er nad wyf fi'n rhannu ei farn...
Hefyd, fues i'n gweld y ffilm Hero neithiwr, a Wimbledon y noswaith cyn'ny... rhuthrwch i'r cyntaf, cadwch draw o'r ail - ew, am adolygu cryno!


28.9.04

Gweithdy Sgriptio

Iei, un cam bach arall tuag at peidio teimlo fel fraud llwyr sy'n honni bod hi'n sgwennu ond yn 'neud braidd dim go iawn â geiriau ond mwydro ar y (ffecin) wê! Ma 'na un gweithdy arall yng Nghaerdydd - Nos Lun nesa, rwy'n credu - a rhagor yn cael eu trefnu ar hyd a lled Cymru. Ewch, da chi, os oes gennych chi ddiddordeb mewn sgwennu creadigol - mae'r awyrgylch yn anffurfiol neis, a'r cyfle i drafod syniadau gyda Eryl yn galonogol dros ben.

Chundain

Oce te, es i i Lundain i ddathlu pen-blwydd Susan (Snoosan), ferch annwyl iawn o'n i byw gyda hi am gwpwl o flynyddoedd yn Coleg. Lot o wynebau rwy heb eu gweld ers blwyddyn, a lot o syllu'n syn at y goleuadau llachr/ posteri mawr glossy/ bechgyn sy'n dalach na fi! (Dyw e ddim fel 'se fi'n gawr yw hi!) Anyway, Inferno's oedd pen ein taith Nos Wener - ac mae'r lle'n haeddu'r enw! Bach o gaws yn dda i bawb bob hyn a hyn though... weden nhw!

Dydd Sadwrn, 'nes i symud lan o Clapham i Belsize Park (swnio'n posh? ma' fe) i aros gyda Jen a'i chasgliad o ffrindiau cool, tres 'London' - Beks, Cocos (sp? mae'n enw Almaeneg...) ac Andreas! O'n i'n teimlo'n reit bumpkin, ond hei, llai'm help 'ny. Es i a Jen i siop gelfi anhygoel yn ystod y dydd - lle oedden nhw wedi gwneud ymdrech i addurno'r lle i gyd-fynd â 'design week' (ma pob wythnos yn rhywbeth week yn Llundain, yn ôl y sôn) ac roedd y cyfan just yn hynod, a'n ddrud iawn iawn.

O fan'na, bach o siopa yn Covent Garden, ac yna allan gyda'r nos i noson o'r enw 'Scram', mewn clwb tua seis y Goat (bechod) ym Mhiccadilly (lovin' the treiglad.) O'n i ar ddeall mai Drum & Bass oedd hi i fod, fyse wedi bod yn fine, ond ges i siom ar yr ochr orau â'r amrywiaeth gafom ni yn y pen draw. Tim oedd ar y decks rhwng acts - a mi 'nath e agor ei set gyda fersiwn 'King Coconut' o Beat It - aeth e 'mlaen i whare mix ei hun o'r Killers, ac yn bach o Mylo a lot o stwff arall 'nath Dwlwen fach yn hapus hapus iawn! Ynghyd a'i arlwy e, gafon ni setiau MC gan (... addo ffindo ma's, oce!) a rhyw foi bach ciwt oedd yn medru beat-box-io a gynigodd y cyber-style-blues number mwya hynod i mi glywed erioed - roedd y bachan yma wir yn impressive, 'se'n i'n gwybod ei enw, fysech chi'm yn clywed diwedd ei glodfori gen i, ond, ummm, o'n i ar y fodka! Anyway, roedd hi'n wych, â chlo'r noson gan Lazy Habits, yna mwy o diwns gwallgo Tim, yn werth aros tan 4 amdani!

Wele luniau...








23.9.04

Maes e yn cael saib : (

Oherwydd amharadrwydd rhai pobl i ddilyn un rheol syml.

Mae'n newyddion truenus dros ben. Sgen i'm byd adeiladol i ddweud ar y pwnc, ond o'n i just am gofnodi pa mor drist i fi, a nifer o bobl eraill, fod pethau wedi gorfod dod i hyn. Gobeithio fydd y sefyllfa'n cael ei adfer yn fuan - neu Duw a wyr, bydd rhaid i fi actiwli weithio o'r syddfa!

POB LWC Nic!

Gweithio? Yeah right! Er mwyn lleddfu'r boen heddiw rwy 'di bod yn ymchwilio ambell i fardd ar y wê (swnio'n despret?!). Dyma un o'r pytiau mwya annwyl i mi ddarllen ers tipyn, gan Piet Hein:

Love is like
a pineapple,
sweet and
undefinable.

Gwefan The Wondering Minstrels

20.9.04

18/09/04 - Gilespi, Eryr, Ashokan - Clwb Ifor

Yn dilyn tair potel o win gwyn a dybl gin does gan Dwlwen ddim llawer i'w ddatgan. Mynegodd un llygad-dyst: "Roeddet ti'n dawnsio a'n twirlio lot, ddim wastad gyda'r beat, ond o't ti i weld yn mwynhau".

Diolch byth fod Siffrwd Helyg a Mihangel Macintosh mor feddw a'g o'n i!




19.9.04

17/09/04 - Gig Cymdeithas yr Iaith, Cerfyrddin.

Mae wastad yn brofiad eitha swreal dychwelyd i hen 'haunts' eich plentyndod - a rwy dal mewn sioc heddi o sylweddoli fod Tafarn y Spread Eagle, hynny yw Spreads yng Nghaerfyrddin, bellach wedi'i leoli yn Crisp and Fry (sy wedi croesi' gro's y stryd), a fod llawr laminate a llechi ffug wedi disodli'r llwch a chippings o'n i'n cofio. Mae'n ymddangos fod Caerfyrddin am droi'n 'trendy' - pob hwyl iddi, ond llai'm help hiraethu'r atgof o le bach didwyll o scabby lle oedd y Vengaboys yn chwarae ar loop.... Falle ddim! Bethbynnag, pwrpas yr ymweliad oedd mynychu gig Cymdeithas draw yn Neuadd San Pedr, lle fu'r bandiau ifanc Garej Dolwen, Rasputin a Java ddiddanu'r gynnulleidfa cyn i MC Sleifar a Chef, ac yna Mattoidz ddod i'r llwyfan.
Pleser oedd gweld gymaint o bobl ifanc yno i gefnogi'r bandiau agoriadol - mae'n amlwg eu bod nhw wedi mwynhau setiau Garej Dolwen a Rasputin, gan neidio i ddawnsio a gadael ni'r hen stejars i rhyfeddu o'n seddau. Bechod mai rhyfeddu'n y ffordd gwaetha posib wnes i - o'n i ddim yn keen ar arlwy'r naill fand, er mae'n siwr fod potensial yno i ddyfodol y Sin Roc. Roedd Java, ar y llaw arall, yn wych yn fy marn i. Mae llawer yn barnu fod y lleisydd yn dibynnu'n ormodol ar ddylanwad y Red Hot Chilli Peppers, ond yr oll welais i oedd band oedd wir yn mwynhau bod ar y llwyfan yn llwyddo i gyflwyno set o ganeuon gwych a'n diddanu a'u perfformiad o'r cychwyn. Da Iawn wir!
Chef a Sleifar ymddangosodd nesaf - a 'nes i gyffroi'n lan! Cynigwyd set o ganeuon o'r albym 'Miwsic i'ch Traed a Miwsic i'ch Meddwl', gyda tipyn o freestylo gan Chef (oedd yno i gefnogi Sleifar gan fod LoCut ddim ar gael) ac yna dwy gan Tystion. Roedd 'Radio Amgen' a 'MOMYFG' yn uchafbwyntiau i'r set ac i'r noswaith. Gymaint ag wyf fi'n dwli ar stwff LoCut&Sleifar, byddai'n wych clywed Sleifar a Chef yn cyd-weithio mwy yn y dyfodol, hmm sgwni...
Mattoidz oedd olaf i'r llwyfan a'u set dibynadwy o anthemau rock cyfoes! Roedd hi braidd yn chwith heb Gareth Delve (bas) yn canu'r harmonis, ond roedd y band dal yn gadarn a'n hyderus, a'r gynnulleidfa wrth eu boddau!

Pob hwyl i'r Gymdeithas â'r ymgyrch yn erbyn Radio Carmarthenshire!






6/10/04 - Cwis Dafarn

Dyna'r plan am Noson nesa'r Goat Major. Mae gwybodusion blaenaf Cymru yn paratoi cwestiynnau wrth i mi siarad. Dyfalwch pwy!


15.9.04

Y Bywyd Tawel...

Es i adre am fy math blynyddol, cue'r lluniau quaint o piller boxes...







11/09/04 - Acoustique, Clwb Ifor

Braidd o siom bod dim fwy o bobl wedi dod draw i glywed un o gigiau Cymraeg mwy 'alternatif' y ddinas, ond hei, o leia odd hi'n intimate 'na!
Samba Galles gychwynnodd y nos gyda pherfformiad trawiadol dros ben - ond yn sicr y band Jazz oedd y brif-attyniad. Roedd llais Lleuwen Steffan yn hyfryd wrth iddi'n tywys ni drwy set o ganeuon o'r albym 'Cyfnos', ac ambell i gan newydd. Uchafbwynt y nos? Y gan ola, Nos Da - Perffaith.

Doedd y dawnsio lawr llawr wedyn ddim yn bad chwaith!



9.9.04

Pep le Pew, Sibrydion, Frizbee - Toucan 8/9/04

Rightiho, dyma fi 'to...

Wythnos arall, a gig arall yn y Toucan - i ddathlu lansiad albym diweddar Pep le Pew 'Un Tro yn y Gorllewin' ar label Slacyr ac i godi arian i'r Eisteddfod (druan.) Frizbee agorodd y noson yn ddigon egniol. Does dim byd gen i'n erbyn y tiwns catchi, yr harmonis neis a'r twists bach quirky ar ddiwedd bob can, ooooond, dyw Frizbee just ddim yn cael effaith arnai. Perfformiad 'neis' gan fand 'neis'. Sibrydion oedd nesa - a 'nesi wir fwynhau rhannau o'r set, er mod i erioed 'di clywed 'u stwff nhw o'r blaen; 'nai'n sicr edrych ma's amdanyn nhw. Ac yna, uchafbwynt y noson (er y sain doji) Pep le Pew. Wy'n dwli ar yr albym newydd, yn enwedig 'Pechod' a 'Mwngrels', ac roedd y set yma'n gyflwyniad ddigon da i record sy'n sicr werth ei phrynu.

Sai'n rhy hael â'r clôd heddi am rhyw rheswm... Bai'r glaw falle, ddoi nôl â mbach fwy o frwdfrydedd nes mlaen!




6.9.04

Penwythnos, Pen-Blwydd, Pen Tost

Wedi i mi fethu'r ddrama mae'n ffrind i Alex yn Is-Gyfarwyddwr iddi, Football, a mynd am swper gyda Mam a Dad yn lle, es i draw i Chapter Nos Wener i sgyrsio â Alex a'r rheini lwyddodd weld y perfformiad, ac i ymddiheuro drosodd a throsodd am fod yn ffrind mor wael. Falle 'neith plyg fach fan hyn fymryn i ad-dalu'r ddyled!

'Mlaen a ni i Nos Sadwrn - Pen-Blwydd Hapus Crav! Meddwl gafodd pawb lot o hwyl yn y Brasserie, ac yna'r Toucan - mae'n siwr gafodd pawb lot o hwyl ar ôl hynny nôl yn ty hefyd, ond llai'm wir gynnig sylwad am mai'r oll allai gofio yw canu 'Pethau Achlysurol' (allan o diwn) gyda CD Alun Tan Lan, arllwys Gin, ac yna dihuno am 11 bore wedyn... Mae'n siwr fod gwers i ddysgu o'r brofiad yna'n rhywle!






3.9.04

And all that Jazz

Wel am syrpreis fach neis! Neithiwr 'nes i grwydro draw i Cafe Jazz ar Heol Eglwys Fair i glywed Gwyneth Herbert a'i band yn perfformio casgliad o glasuron jazzy a chaneuon o'i albym newydd 'Bitersweet and Blue'. Mae ganddi lais anhygoel a 'nes i wirioni'n llwyr a'i pherfformiad o 'Let's Stay Together' yn enwedig. Os gewch chi fyth gyfle i glywed hi, ewch da chi! ...ond peidiwch disgwyl i Noel Hearsay fod yno!





O.N. Os chi wir eisiau gweld Noel, bydd e'n perfformio yn y Mardi Gras yng Nghaerdydd penwythnos yma.

2.9.04

Gaaaafr wen wen wen...

Cafwtd gig wych arall neithiwr â lawnsiad llwyddiannus i rhifyn Hâf Tu Chwith. Roedd deuawd gitar a bongo Ashokan yn agoriad anhygoel llawn egni a chymeriad, fel fysech chi'n disgwyl! Wedi darlleniad gan Ion Thomas cafwyd setiau hyfryd gan Fflur Dafydd, Gwyneth Glyn, a Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn. Mae caneuon yn ddwy yn hynod deimladwy, a rwy'n sicr iddynt swyno'r dafarn gyfan am ysbaid. Mattoidz 'nath gloi â set o'u caneuon cyfarwydd ac ambell i gyfr - 'nes i ddwli'n llwyr wrth glywed 'Lluchia dy fflachlwch' yn dechre! Ma 'na adolygiad fach neis ar Unarddeg.
Roedd y lle'n orlawn unwaith eto, diolch i bawb ddaeth draw!








Gwyl Harbwr Caerdydd

Gan bo fi methu meddwl am unrhywbeth gwell i 'neud, es i am grwydr draw i'r bae Nos Lun lle ges i sioc i weld bob man yn fwrlwm o stondinau a gweithgareddau. Ro'n i 'di taro ar Wyl yr Harbwr mae'n debyg, a neis iawn oedd gweld cymaint o hwyl draw'n y lle - am funud bach o'n i'n coelio 'mod i ar y South Bank yn Llundain.