29.10.04

updêt

Gafon ni ddydd bach brysur ddoe'n symud draw i'r ty newydd - sy'n gartrefol iawn (er fod y lliwiau paent yn, wel, ddiddorol) - ddylei 'neud y tro am flwyddyn bach : D
Dim byd arall i reportio rili, ond gan bo fi newydd dwli pip ar flog Criddle, 'nai ychwanegu'r pwt 'ma o copi & paste:



Cerwch.

27.10.04

Bywyd mewn bag

Sgen i'm yr egni i ymhelaethu. Symud ty fory os eith popeth yn iawn. Ma'r sgerbwd o stafell ma sy 'di bo'n gartre am llai na blwyddyn yn le tirst iawn. Hwyl fawr i'r hen le...



26.10.04

John Peel 1939 - 2004

Ar ol clywed y newydd trist heddiw, daeth y disgrifiadau canlynol gan Simon Armitage i gof. Rwy'n cofio tiwnio mewn i Radio 1 yn hwyr bob nos yn fy arddegau - i wrando ar 'Graveyard Shift' Marc a Lard, rhaid cyfadde, ond byddwn i wastad yn dal rhyw awr o John Peel cyn i hynny ddechrau. Roedd Armitage yn arfer darllen barddoniaeth ar rhaglen y ddau Marc - yn y dyfyniadau isod mae'n cofio un sioe pan oedd y cyflwynwyr arferol ar eu gwyliau, a Peel wrth y llyw. Roedd agwedd y dyn i weld mor gynnes a chyfarwydd, mae clywed Armitage yn ei alw'n "every bit as... well, every bit as John Peel as you thought he was and wanted him to be" yn ffitio'r ddelwedd oedd gen i ohono yn berffaith.

"At school, you and your best friend Rob used to take it in turns to record his show, edit the best bits, and swap tapes on the school bus. You always thought Peel knew you were doing this, and approved of it, because he never spoke a word until the last note of every record had dissolved into silence.

Not that it would have mattered if he had started to speak. His comments and quips and mumblings were just as important as the music, as were his technical hitches, which included playing at least two records per night at the wrong speed, and talking at great length about somebody's new single before playing the B-side."

"...he once DJ'd a live programme with John Lennon and Yoko from a studio in London. ...Telling me this and after mentioning Lennon for the third time, he refers to him simply as 'John', then stops and rolls his eyes, embarrassed to be speaking about him in first-name terms. He says, 'John! Well, it was his name.'"


Over the Top into Lancashire, tud. 77 a 79, All Points North, gan Simon Armitage

26 - 30.10.04 - Epa yn y Parlwr Cefn, Chapter, Caerdydd




Mae Cwmni Drama 3D yn ôl a'u ail gynhyrchiad, chwarae teg iddyn nhw. Dyma'r blyrb o wefan y Theatre yng Nghymru:

"Dyma gynhyrchiad newydd o ddrama bwerus Sion Eirian gan Gwmni Theatr 3D. Hanes tair putain wahanol iawn sydd yma – Mary, Bethan a Linda. Myfyrwraig o gefndir breintiedig yw Bethan, sy’n puteinio er mwyn talu am ei lle yn y coleg. Mae’n boendod i Linda, sy’n butain ifanc, surbwch, ond gwelwn y ddwy yn eu tro yn ffoi o’u sefyllfaoedd drwy eu hatgofion a’u dychymyg. Putain brofiadol, wedi ei chaledu yw Mary. Ystyriwn yr hyn sydd fwya’ anfoesol – galwedigaeth drist a diflas y merched, neu drachwant ffasiynol a dienaid eu lanlord, Scoot? Ai niwroses rhywiol ein cymdeithas sy’n gyfrifol am gynnydd puteinio, neu’r amodau cymdeithasol dinistriol cynyddol? Nid ceisio ateb yr amlwg a wneir, ond creu darlun bras o fywyd pedwar cymeriad, mewn un gornel fach o’r cynfas. Anaddas i rai dan 16."

Byddai'n mynychu'r Noson gyntaf heno - edrych mlaen yn arw a'n croesu popeth allai feddwl i groesi dros y genod.

Mae tocynnau'n £4/£5 a'r perfformiadau'n dechrau am 8 bob nos tan Nos Sadwrn.


23.10.04 - Mattoidz, Bechdan Jam a Fenks - Clwb Ifor Bach

Gewch chi luniau, ond does dim atgofion arnai ofn - lwcus i gael y lluniau fel mae'n digwydd, achos lwyddes i golli'nghamera yn fy medd-dod. Diolchiadau lu i'r bobl neis yn clwb 'nath garco'r annwylyn bach tra bo ni ar wahan. Pen-blwydd Hapus iawn i Jaqueline y Diawl gyda llaw - pwy fyse'n credu bo fe'n 30? ;)




21.10.04

20:10:04 - Meat, Theatr y Sherman, Caerdydd

Drama gan ffrind i ffrind (*chwerthin nerfus, am bo fi wedi cael fy nghyflwyno ond methu cofio'r enw, he he ahem*) gyda Alex Ferris - my mate - Ash rhywun a'r sgwennwr 'ma yn actio. Roedd hi'n stori ddifyr, a digon o droelli plot i gadw diddordeb trwy rhai o'r ysbeidiau amaturaidd.
Yn fras, mae Jeff wedi gwahodd ffrind i ginio, ond eiliadau cyn i'r ffrind gyrraedd, dyma Pregethwr busneslyd yn ymddangos a'n dechrau ymdrechu i arwain Jeff nôl at y golau, fel petai, ond, unwaith i'r gwestai amheus gyrraedd, mae'n amlygu bod perthynas y ddau llawer tywyllach na ddisgwyliodd unrhywun - mae'r dyn wedi ateb gwahoddiad gan Jeff nid i ddod i ginio, ond i fod yn ginio. Sefyllfa swreal a doniol dros ben - ac mae'n debyg cafodd bawb llawer o hwyl yn llurginio ffrwyth er mwyn creu trac sain i'r llofruddiaeth ['nai'm weud pwy ;) ] sy'n cau'r ddrama. Roedd y 'gwaed' blas jam mefus yn neis iawn 'fyd mae'n siwr.

Mae'r ddrama 'mlaen rhywle ny Llundain o Ddydd Mawrth hyd Dydd Sadwrn nesa - gyrrwch slap os chi am fanylion.

18.10.04

Miwsig i'r meddwl

Ma Modest Mouse yn dweud, 'My thoughts were so loud I couldn't hear my mouth' - a 'na pham bydda i'n byddaru'n hun â'r headphones pob cyfle gaf fi am wn i...

Dyma beth sy'n chwarae ar hyn o bryd, a dolenni i adolygiadau gan y bobl neis 'na draw yn Pitchfork

Feist - Let it Die
Modest Mouse - Good News for People who Love Bad News
Half Cousin - The Function Room
Interpol - Turn on the Bright Lights

Mae hefyd gen i mics têp bran spankin newy' oddi-wrth ffrind sy'n cynnwys bitsach bach hyfryd fel Walk Away Renee gan Billy Bragg, Moon River wedi'i berfformio gan Audrey Hepburn a bach o Nick Drake a Magazine tw bwt. Angen i ni gyd ymgolli o bryd i gilydd 'd oes?

Ffyc oes glei!




15.10.04

Gwobr Barddoniaeth John Tripp

Fi braidd yn hyngofer heddi ar ôl lordio hi gyda'r beirdd yn rownd Caerdydd o'r gystadleuaeth yma neithiwr. Roedd dau ffrind yn cystadlu, ond gafodd y naill wobr.
Cystadleuaeth barddoniaeth lafar yw hi, felly roedd perfformiadau'r beirdd yn holl-bwysig, ac mae'n rhaid cyfaddef ces i noson ddigon difr yn clywed y cerddi a'n rhyfeddu at rhai o'r eccentrics oedd yn eu perfformio! Mae rownd terfynnol y gystadleuaeth yn cael ei gynnal ar Tachwedd 26ain yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

12.10.04

Mylo - Clwb Ifor - 9/10/04

Gig oce - er ma abell i atgof sy 'di nharo i ers 'ny'n awgrymu 'mod i bach fwy feddw nag o'n i'n feddwl. Ymddiheuriadau i unrhywun 'nes i fwydro.




Mae'r albym, Destroy Rock and Roll, yn wych gyda llaw - fel y mae benni'n tystio, a mae'r bois 'in the know' draw'n Pitchfork i weld yn hoff o'r sengl Drop the Pressure - wy'n meddwl! ; )

Wythnos ar 'i hol hi

Wel, fuodd y cwis yn lwyddiant! Roedd y dafarn fach ny orlawn, a rhai o'n pyntars ni'n gorfod eistedd ar y llawr chwarae teg. Gobeithio ddeith hyn yn ddigwyddiad cyson - ni dal yn trafod y peth, ond mae'n sicr fod digon o gefnogaeth a diddordeb. Diolch bobl peniog Cymru fach ; )

Dyma'r rownd gwybodaeth cyffredinol i chi, a cwpwl o luniau o'r noson.


1. Beth oedd enw llong Captain Cook?
2. Gweithiau gan ba fardd o’r Bedwaredd Ganrif ar ddeg yw ‘Troilus and Creseyde’, ‘The Paliament of Fowls’ a ‘Boetheus’?
3. Enwch brif-ddinas Paraguay.
4. Ym mha ddinas gafodd y Titanic ei adeiladu?
5. Pwy yw Prif Weinidog yr Eidal?
6. Duwies beth oedd Nike?
7. Am ddyfeisio beth mae Percy Shaw yn enwog?
8. Merch i bwy oedd Siwan, gwraig y Tywysog Llewelyn ap Iorwerth?
9. Beth yw enw mwy cyfarwydd Dioxiribo Nucleic Acid?
10. Pwy faeddodd Scott of the Antarctic i Begwn y De?








5.10.04

Mae'r amser yn agosau...


4.10.04

30/09/04 - Gig Undeb Coleg y Drindod

Doedd y trefniant ddim lot o cop, sy'n drueni mawr gan fod wir angen i bobl ardal Caerfyrddin ddechrau talu sylw at yr SRG... ond 'na ni, sdim byd allwn ni 'neud nawr (a finnau 'di cyffroi cymaint yn gyrru draw â'r rapwyr yn rihyrso'n y car!)
Roedd set LoCut&Sleifar o'r safon uchel arferol, a'i berfformio o bwth y DJ yn ychwanegu rhyw elfen ychwanegol i'w 'pregeth'. 'Nes i adael cyn i Ashokan chwarae, ond mae'n sicr nad oedd y gynnulleidfa na'r gig yn deilwng o nhw chwaith - trist iawn. Dwy ddim yn meddwl fydd y naill fand na 'Cardiff's very own DJ Ian Cottrell' yn mentro nôl am sbelen :(

Ah wel, o leia ges i'r llun hollol cwl yma o Sleifar... Wel, fi'n meddwl bo fe'n cwl : /


1.10.04

Lookalikes

Gwobr i'r cyfieithad gorau o'r derm yna - dyw'r awen heb daro fi eto :(
Tystiolaeth o rhagwelediad ein artistiaid blaenaf?