29.11.04

Rhybudd...

...i unrhywun sy'n talu sylw mas 'na. Byddai'n gweithio fel ffwl am yr wythnos nesa 'ma'n gyrru artistiaid Sioe Nadolig teli-tastic nôl a mlaen a nôl eto - felly, bydd pethau'n weddol dawel fan hyn.

Triwch peidio crio - a peidiwch, da chi, ag anghofio am y Cwis Dafarn a'r gig. Geraint C - fi'n dibynnu arnot ti i fwp-io ar fy rhan... ffenkiw.

I ♥ my brick

Gai jyst ddweud, fi'n gefnogol o'r Ganolfan Newydd - a'n edrych mlaen i grwydro lawr 'na'n fuan i dwli pip ar y celf a falle archebu cwpwl o docynnau fel anrheg i Mam a Dad. Ond...



"Mae mabwysiadu llechen yn ffordd bersonol iawn i bob un ohonom ni i rannu yn natblygiad y begwn celfyddydol gwych hwn ar gyfer Cymru"

Llai'm stopio giglo :D



26.11.04

Festive Fifty


Gyda'r goleuadau'n cynnau'n y ddinas wythnos diwetha a dyfodiad y 'Winter-Wonderland' i drothwy'r Amgueddfa, mae'n amhosib anwybyddu mwyach fod Nadolig ar ei ffordd... Dwy heb nôl yr un anrheg - na meddwl beth i nôl hyd yn oed - oooond, rwy di sortio'mlaenoriaethau a pleidleisio am y dair gân sydd wedi swyno 'nghlustiau cyffrous dros y flwyddyn diwtha, sef... ...

  • 'Radio Amgen' gan LoCut&Sleifar
  • 'Float On' gan Modest Mouse
  • 'Murmur' gan Jakokoyak

'Nath Melys gyrraedd y brig yn 2001, felly mae'n reit debyg fydd gan rhaglen Peel adlewyrchiad amgenach o'r sîn Gymraeg (oce, y sîn Gymraeg fel rwyf fi'n ei gweld hi) na Mawredd Mawr ;)

Do Something Pretty

Diolch i Loopylooloo am grybwyll y wefan a'r erthygl yma. Dyma ddyfyniad:

For a band like Pep Le Pew to go largely unnoticed on the whole just seems like a crime. A couple of these records might have made it on to John Peel (RIP), but that’s about it. Considering I saw more passion and dexterity in a week than I would have seen in a year’s worth of gigs, this is a shame - but the majority’s loss.



Da de.

25.11.04

Fideo Hud

Gan 'mod i'n dwli ar Ffilmiau byrion a cherddoriaeth gyyyyymaint, ma cyfrwng y 'fidio bop' wastad wedi apelio. Cyfunwch hynna gyda'r iaith Gymraeg a llai'm derbyn cyfrifoldeb am fy ymddygiad... Dros yr wythnosau diwetha mae Bandit wedi bod yn atgyfodi hen fidios pop Cymraeg - oherwydd y penderfyniad dadeuol i ddarlledu 'ond hanner gynta'r rhaglen ar S4C analog, 'mond un neu ddau o'r hen fidios 'ma wy 'di'u gweld - ta beth, mae'n bleser hel atgofion, a rhaid canmol y sylw mae Bandit wedi tynnu at y gyfrwng. Drwy sifftio goreuon y gorffenol mae gosod safon i'r presennol, a felly mae fidios llawn-dychymyg a chreadigrwydd newydd yn cael eu creu, megis 'Diwrnod Braf Saizmundo' (cyf: Dafydd Wyn) a'i ddarlledwyd ar y rhaglen wythnos diwetha. Gobeithio bydd fidio Tricky Nixon heno yr un mor addawol, yfe...

Yn yr archif wythnos yma, ma modd gweld fidio 'Maes-e' gan Datblygu. Pleidleisiwch. Thankiw.

Gig Rhagfyr

24.11.04

Chwarae 'Catch Up'

Or blydi diwedd! Ges i alwad ffôn hir-ei-ddisgwyl neithiwr gan Rachel McCrum - un o' nghyfeillion ffaffio gore gore o'nyddiau gynt yn (methu a) gwneud traethodau ar 'rhagluniaeth' yng ngherddi'r 9fed ganrif a sut mai 'Critical Theori' yw canlyniad chwerwder at dranc y 'Summer of Love'. [Tip bach - os am ysgogi ffrind o Ogledd Iwerddon i ateb yr holl negeseuon peiriant ateb 'na, gadewch neges Gymraeg uniaith go hir a bydd 'i chwilfrydedd hi'n gofalu am y gweddill...]
Eniwe, heblaw atgofion melys o'r hen alma mata, ges i hanes y flwyddyn ddiwetha'ma - a dreuliodd Rachel yn Seland Newydd (tra 'mod i yn sunny Kediff...) Haf o ffermio tatws organeg a gweithio mewn tafarndai Gwyddelig hyd aeaf o sgio ac eirafyrddio yn y mynyddoedd. Sgen i ddim manylion y gwahaol llefydd y bu hi - ond 'nai hel enwau a golygu'r post 'ma yn y fan...

Difaru braidd 'mod i heb deithio rhyw lawer - gwyliau teulu yn Ewrop ac un neu ddau trip gyda ffrindiau yw'r pella grwydrais i ar droed. Ah wel, mae'r cyfle dal yna...

Crafu wyneb y wasg danddearol...



Roedd sypreis bach yn fy nisgwyl pan gyrhaeddes i adre neithiwr ar ffurf criw ffilmio Wedi 7, oedd wedi dod i'r ty newydd i gyfweld â golygyddion yr uber-ffansin, Brechdan Tywod. Cuddio yn yr ystafell fyw 'nes i (lle oedd modd chwarae 'gwisgo wig Jeni' gyda'r proles arall) tra fod Mihangel a Jeni'n cyfrannu at eitem am gynnyrch gwasg anibynnol Cymru. Mae'n braf gweld cymaint o sylw'n cael ei dalu at fentrau fel hyn (am rhagor o hype wele Maes-e a Bandit.) Gobeithio fydd yr hinsawdd cymedrol presennol yn parhau.

Ddylai'r eitem (a'n ty ffantastwych) fod ar Wedi 7 rhywbryd wythnos nesa.

22.11.04

Cwis Dafarn 3

Aros yng Ngorsaf Caerdydd...



...a pawb yn heidio i'r golau. Ciwt.

18.11.04

Skep a Gary Raymond

Gig wych arall, er o'n i'm cweit fi'n hun neithiwr - (falle mai'r 12 dydd o waith heb benwythnos na'r un diwrnod off oedd ar fai) - ond 'nes i lwyddo ymlacio a mwynhau erbyn y diwedd, diolch byth!
O'n i'n poeni braidd sut ymateb fyse Gary'n cael; dwy heb osod unrhyw 'bolisi' cadarn ynglyn a iaith y gigs 'ma, ond hyd yn hyn, setiau Cymraeg gan fwyaf sydd wedi cael eu cynnig. Foddbynnag mae'n debyg mai 'ond fi oedd yn betrus - cafodd y ddau artist ymateb da iawn. 'Nai aros sbel fach cyn mentro i dir tywyll y di-Gymraeg eto 'r un fath, er mwyn penderfynnu beth yn union fysai'r 'polisi' petai un...

Ma 'na fwy o wybodaeth am Skep ar wefan Dockrad.


17.11.04

Lluniau Lansiad Brechdan Tywod - 13/11/04

Lluniau o'r lansiad Nos Sadwrn diwetha...




A cwpwl o gig Winabego ar ol hynny...



16.11.04

Yr honedig ffim fer, gan Dwlwen, i fod...

Reit, ar ol mynychu hwn achau 'n ol, wy nawr yn cael y cyfle i sgwennu triniaeth ar gyfer Ffilm fer. Does dim brys, ond wy'n eitha aflonydd ynglyn a'r peth gan mod i methu 'neud y penderfyniadau sylfaenol sy angen eu gwneud i strwythuro fy stori (mae gen i daflen waith hyfryd gan Opus yn rhywle sy'n gosod y cwestiynnau holl-bwysig - nai bostio fory.)
Felly wedi creu rhyw sgerbwd o sefyllfa, rwy angen penderfynnu am bwy rwy'n son - mae gen i 3 cymeriad ac un safbwynt hyd yn hyn, ond sai'n meddwl fod gen i'r amynedd na'r gallu i ddatod dryswch y llais sy'n siarad isod. Dechrau meddwl mai'r corff yn y gwely bydd fy mhrif gymeriad felly am mai dyna'r unig un sydd â nod pendant - mae e mo'yn y ferch... Argh, shgwlwch a 'newch chi weld cynlleiad sda fi!

Breuddwyd arall oedd hi - yn cuddio dan gynfas glud. Golau’r haul ar wely gwyn, yn goleuo dy gorff di wrth fy ymyl – dy gefn wedi troi. Allai gofio’r cyffro cyn i ti ddeffro; mil ar fil o eiriau’n gwthio fel gwaed o gysgod calon i gefn fy ngwddf. Ond rwy’n cadw’n dawel i wrando ar donnau ysgafn dy anal. Yna’r tawelu, a’r cyfan yn toddi tu ol curiad didrugaredd y glaw ar fore newydd.

Syched sy’n fy neffro. Mae’n fore arall, a breuddwyd arall oedd hi. Gwely arall yw hon.

Mae’n rhaid i mi symud, torri’r syched, felly rwy’n dringo dros y corff sy’n dal i anadlu’n bwyllog wrth fy ymyl a’n gadael ei ystafell gan wisgo crys 't' oedd ar lawr. Agor y drws, a’i gau tu ol i mi gan anadlu’n ddwfn.

Camu dros bentwr cwsg dan sach gysgu a gwenu’n druenus wrth feddwl bydd rhywun mor ddryslyd ag oeddwn i’n deffro. Ac mewn eiliad, mae’r cyfan yn newid - mae’n deffro, yn troi a’n agor ei lygaid. Ei olwg yn gwibio o’ngwyneb, i’m dillad, at ddrws yr ystafell gau.

Yr un eiliad rwyt ti’n ochneidio a’n syllu atai, fel ergyd caled, yna, heb ddweud dim, rwyt ti’n troi dy gefn eto, ond nid breuddwyd yw hi nawr.

Y drych ar wal yw’r unig dyst i’r dagrau tawel beraist ti.


Ffaff ffaff ffaff

Ffilmses

Iasu, wy'n brysurach na chleren go brysur (parch i gyfieithu llythrennol) felly copi&paste amdani eto, sori i unrhywun sy'n talu sylw! Fel meddai'r gân "Os y'ch chi mo'yn e...", cerwch i ôl e draw'n Pictiwrs, lle mae llwythi o adolygidau Cymraeg a bach o newydd am yr Wyl Sgrin sy wedi bod yng Nghaerdydd ers wythnos bellach. Hyd yn hyn wy wedi gweld y ffilm sy'n cael sylw isod yn ogystal a 'Dear Pillow' - 'nai ffurfio barn ar honno a'i bostio yn y fan!

Fimfárum Jana Wericha (2002)
IMDb



Ffilm wedi ei hanimeiddio o’r Weriniaeth Czech a gymerodd 17 mlynedd i’w chreu – ond roedd hi werth pob eiliad!
Casgliad o bump ‘chwedl’ lled-foesol sy’n neidio o dudalennau llawysgrif dychmygol ‘Fimfarum’. ‘When the Leaves fall from the Oak’ yw’r cyntaf; stori am ffermwr, Cupera, sy’n gor-yfed tan mai ond un gobaith sy’ ganddo – gwneud bargen â’r diafol i gyfnewid ‘y peth sy ganddo adre, na wŷr amdano’ am gnydau gwell. Ac wedi taro’r fargen, beth sy’n disgwyl Cupera adre ond babi bach newydd ei eni. Fedr ein arwr gafflo’r diafol, tybed? Stori ddifyr am ffolineb yr yfwr sy’n dilyn, gyda anterliwt am gosbi pechod yn uffern yn dod â lliw a llwyth o hiwmor dywyll i’r cyfan.
Dameg ddidwyll ar yr olwg cyntaf, efallai? Ond mae ‘na stremp ddireidus go drwchus i’r stori agoriadol sy’n ymhelaethu drwy’r casgliad cyfan. Nid gwers foesol mo hon; y sylfaen amlycaf i’w osod yma yw honno o estyn coes ar draws llwybr patrymau taclus straeon hud a lledrith ein plentyndod er mwyn eu baglu yn y fan a’r lle – a pleser yw gwylio’r straeon dilynol yn brasgamu’n eofn i’r un cyfeiriad.
Mae stamp dychymyg byw i’w weld ar bob bachell o’r ffilm – â sgript llawn cymeriad a cherddoriaeth gwych yn ychwanegu at yr animeiddio godidog. Yn y pendraw, mae'r straeon fel bywyd, weithiau mae'r diwedd yn un hapus, weithiau ddim; does 'na ddim neges universal - 'mond rhyw ddwy awr difyr o fwynhad pur.

11.11.04

Sêr Aur i...

Wel, fuodd yr ail gwis neithiwr yn lwyddiant, felly hip hip hwre i...

Geraint, Shon a Geraint am yr help gyda'r cwis.

Hefin am y PA (eto.)

'Rhidiana Jones' (ar y last crwsêd) am ennill y cwrw, a 'Hanner Swllt' am ennill y gwîn.

'Erogenous Jones' am yr enw tîm orau!

Pawb ddaeth draw neithiwr, a phawb bydd yn dod i'r gig wythnos nesa a chwisiau'r dyfodol.

Co chi'r rownd Gerddoriaeth fel blas - Criddle, paid sbwylio fe fel 'nest ti mis diwetha ;)

1. Pwy rhyddhaodd yr albwm “Where I’m Coming From” ym 1971?
2. O ba opera daw Cân Papageno, a pwy a’i gyfansoddodd?
3. Pwy rhyddhaodd yr albwm “Sub Not Used” ym 1998?
4. O ba gân daw’r lyrics “You were humming to yourself and softly strumming your guitar / I could hear the distant drums / And sounds of bugle calls were coming from afar” ?
5. Ym mha flwyddyn rhyddhaodd y Beatles Abbey Road?
6. Pa gân yw rhif 1 siart senglau’r Top 40 wythnos yma? (teitl ac artist)
7. Pryd oedd y tro diwethaf i Brydain Fawr ennill y Gystadleuaeth Eurovision, a beth oedd enw’r gân?
8. Enw go iawn pa gantores enwog o’r chwedegau oedd Mary O’Brien?
9. Enwch yr albwm Cymraeg ei hiaith i werthu’r nifer fwya o gopiau yn rhyngwladol.

10. Pa fand gwerin a’i sefydliwyd ym 1967 sy’n cynnal gwyl flynyddol yn Cropredy?


8.11.04

Fy mhenwythnos mewn lluniau...

Meddwi...



Crwydro â hang ofyr a rhyfeddu at brydferthwch y byd... (mwy o hyn wedyn)



Once more into the breach...




'Nes i'm tynnu lluniau o'r ciw i clwb, na'r stafell fyw ar Westgate Street lle es i gael paned yn lle sefyll yn y glaw.

Ashokan2

Mae Ashokan wedi recordio ail albym, â'r teitl llawn-dychymyg yw Ashokan 2. Bydd e yn y siopau ar Rhagfyr y 6ed - felly mynnwch gopi gan Santa nawr. Dyma sy gan Dockrad i ddweud:
Ti’n gwybod fel mae, ti’n aros 7 mlynedd am album Ashokan, a mae 2 yn cyrraedd
yr un flwyddyn! Wele Ashokan yn ôl gyda’u hail album, ASHOKAN 2.
Recordiwyd yr album yn stiwdios Mighty Atom yn Abertawe yn ystod Hydref 2004,
gan Joe Gibb. Mae’r album yn cynrychioli’n well eu sŵn byw sydd wedi ennill
nifer o edmygwyr dros y flwyddyn diwethaf.


A os chi dal yn darllen, dyma sy gan Dwlwen i ddweud...

Mae’r flwyddyn diwetha wedi bod yn brysur iawn i’n hen ffrindiau o Don-Teg, Ashokan. Ers rhyddhau Diolch am ddal y Gannwyll dechrau’r flwyddyn, mae’r band wedi gigio tan iddyn nhw igio, a thrwy pherfformio angerddol maent wedi argyhoeddi sawl fod dyfodol y Sîn ROC Gymraeg yn ddiogel. Mae teulu’r ‘khan wedi estyn ymhell, ond mae dal gwaith perswadio gan yr ymhonwyr ifanc i’w wneud. Gyda ASHOKAN 2 mae’n amlwg fod y bois yn barod i brofi’u hunain.

Mae’r anthem agoriadol yn gyflwyniad da i albym trymach, llawnach, gwell. Gyda chur y drwm, bass trwchus, gwichian gitars ac allweddell llawer mwy mentrus ynghŷd a gwaeddu a sgrechian di-drugaredd y lleiswyr, mae’n ddigon i godi ofn fod Ashokan o ddifri. Ond na phoener – dy nhw heb angofio’r brif-gynhwysyn: â thoc swmpus o gaws cawn ein ‘Diolch am ddal y Gannwyll’ wrth i lais melfedaidd y DJ gwadd gyhoeddi enw’r trac. O hyn allan, sain tipyn mwy cyfarwydd sydd â ‘Kill the Old Guard’ yn gwireddu potensial ffynci y band tra fod ‘Coes Goch’ yn cyflwyno elfen mwy ‘bluesy’ i’r arlwy aeddfedach. Mae’r daith tuag uchafbwynt yr albwm, ‘Dim Coes dim Brêc’ yn un bywiog, â’r band yn ein cam-arwain hyd nifer o droeon bach difyr sy’n profi gallu’r cerddorion a’u cwmpas eang.

Yn sicr, mae Ashokan2 yn dod a gwên i’r wyneb (yn enwedig o gyfuno’r gerddoriaeth egniol â’r esboniad gwallgof o thema’r albym ‘gysyniadol’-honedig sy’n y clawr.) Ond ma ‘na wastad ond, ac wedi rhyw dri gwrandawiad gan chwerthin at holl ffrynt ac agwedd y peth, rhyw ddryswch sydd yma ynglŷn â ‘beth mae’r band actiwli eisiau’i ddweud?’ Oes unrhywbeth i ddweud? Oes rhaid dweud unrhywbeth? Oes angen ateb?! Am y tro, mae rhwygo’r stigma ‘band-recordio-mewn-cwpwrdd’ cynt yn rhacs tra’n cynnig ffwc o gic tin i’r Sîn Roc yn hen ddigon o gyflawniad. Gobeithio fod Cymru’n barod...

Yn ôl i Barc Thomson

Wedes i bo fe'n gojys do...




4.11.04

Romeo & Juliet



Wy di bo'n clywed pethau gwael am ail gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, ond ta waeth - wy am fynd draw i Theatr y Sherman i dwli pip nos fory (a wedyn cadw'n schtwm bebynnag fy marn siwr o fod...) Hyd y gwela i, 'mond y cyfarwyddo sy'n cael ei farnu, felly wy am rhoi'n holl ffydd yn yr actio a gobeithio am y gorau.

Gig Nesa

'R un man i chi gael gwybod - dyma'r gig nesa wy'n gobeithio'i drefnu. Ddylai'r cyfan fod yn sorted, ond peidiwch a chyffroi gormod achos dyw hyn ddim wedi'i gadarhau eto.

Poster neis though ;)

3.11.04

Cwis Dafarn 2 - tro 'ma ni o ddifri...

Wel, ddim rili.


y Cloc Diwyd

Mae'n fwy o gelfyddyd 'na gwyddoniaeth yn fy marn i - rhyw fynegiant hynod afaelgar am ein obsessiwn âg amser a chadw cofnod... Neu ai jyst fi yw hwnna? Piti mod i methu ffindo ffordd o osod y peth fel llun.

Chapter Moviemaker

Noson debyg i screenings POV yn Dempsey's - ond bach llai anffurfiol (dal yn ceisio penderfynnu yw hynny'n beth da neu beidio...?) Nos Lun diwetha cafwyd tair ffilm, un gweddol (ond ymhongar) a dwy eitha da - er i mi weld un yn Dempsey's wythnos diwetha. Roedd cyfle i ofyn cwestiynnau ar ddiwedd y sesiwn. Be sy'n werth nodi, foddbynnag, yw parodrwydd 'moviemaker' i fenthyca offer ffilmio a defnydd o'u cyfleusterau golygu i unrhywun sydd am geisio creu ffilm. Hawdd Pawdd - Bant a fi i greu ffilm felly : D

2.11.04

Blog Bridget?



Ges i alwad ffôn ddoe i ofyn o'n i am fynd ar Wedi 7 er mwyn sôn gymaint wy'n unieithu â ystrydeb hon.

Help?

Ar grwydr

Ma pethau'n brysur 'ma ar y foment - braidd yn cael amser i gnecu ys y dywed rhywun rhywdro... Ond ta waeth 'nai wibio trwy helyntion y dyddiau diwetha er mwyn cadw trac.
Ar ôl treulio Dydd Iau a Dydd Gwener yn cymoni'r tyrrau o fitsach aeth y tri o'ni o'r ty newydd draw i Abri (eto) yng Nghlwb y Toucan (eto.) Cyfle neis neis i ddal lan â cwpwl o wynebau fu ar goll o Gerdydd dros yr Hâf (Iasu - mae biti fod yn 'Dolig nawr!) ac i glywed Saizmundo a LoCut & Sleifar yn wawio criw Higher Learning. Roedd hi'n braf hefyd clywed y rapiwr Wez Cooze yn agor y noson - boi difyr iawn â geirfa eang iawn ym maes afiechydon rhywiol, a digon o hyder/hyfdra i wahodd Sleifar i'r llwyfan am bach o freestylo. Roedd Ruffstylez yn dda iawn hefyd - ond 'nes i'm clywed gymaint o'i set gan fy mod, erbyn hynny, yn ceisio ateb dadleuon y Gwahanglwyf parthed dwyieithrwydd Abri a line-up mis nesa... Wedyn gofies dau beth: fod dim cyfrifoldeb arna i i gyfiawnhau'r noson, a fod fawr o neb yn talu sylw i Gwahanglwyf eniwe, felly nôl i ddawnsio â fi ; ) Aeth pethau braidd yn flêr o fan'na, felly nai'm hyd yn oed fentro cynnig adolygiad, 'mond canmol y DJo rhwng sets a'r teyrnged lyfli o 'Radio Amgen' i John Peel.

Reit, so lle y'n ni nawr? Dydd Sadwrn. 'Nes i'm llawer o ddiddordeb, jyst mynd i grwydro rownd Treganna a dod o hyd i Barc Thompson. Dyma un o'r llefydd hyfryta' i fi weld yn y ddinas erioed. Braidd yn siomeig mod i heb gael lluniau, ond 'nai'n sicr ddychwelyd yno rhyw benwythnos eto i geisio dal prydferthwch y lle. Mae'n hollol hudol; llyn hwyaid wrth i chi fyned o Heol Romilly ac yna llwybrau gwyllt eu golwg drwy tir coedwig i bob cyfeiriad. 'Nes i ddilyn un fynny bryncyn, dan ganopi â phadera gwiwerod drwy frigau'r coed. Ar y copa roedd 'na faes agored wedi'i gylchu gan hen goed â golygfa o'r haul yn machlud yn y gorllewin. Dan rhywfath o swyn ma rhaid, grwydrais i nôl i'r ty clud, a yna draw i Chapter i ddal perfformaid ola Cwmni 3D o ddrama Sion Eirain. Wy'n meddwl fyddai'n hapus yn y lle newydd 'ma.

Cerflun boncyff ym Mharc Thompson