29.3.05

21.3.05

O am gael bod yn ddwys a’n ddifyr…

Bobl bach me’n dawel; y peth mwya cyffrous i ddigwydd i fi ers tipyn yw ffit dagu ges i bore ‘ma – wy dal yn fyw, fyddwch chi’n falch i glywed. Byddai’n difaru temtio ffawd whap me’n siwr, ond mae pethau mor esmwyth mond lluniau ac ambell fwydring allai gynnig ar hyn o bryd (a ‘llai’m wir meddwl am lot i fwydro hyd ‘n oed!) ‘Nath Dydd Sadwrn ddod a mynd fel y disgwyl â digon o ddathlu yn gig Ummh gyda’r hwyr (wele luniau...) Yna es i i am dro ddoe (ni wele luniau achos ‘nes i anghofio’r camera.) Wy ‘di bo’n gwrando ar dipyn o gerddoriaeth os yw hynny o iws – Rough Trade: Counter Culture 2002, [caneuon Polyphonic Spree (Soldier Girl), Bright Eyes (Lover you don’t have to love), a’r Yeah Yeah Yeahs (Bang) yn enwedig], Antholeg Minnie Ripperton(Les Fleurs...), Poses gan Rufus Wainwright a Who is Jill Scott – hyfryd hyfryd iawn un ag oll. A dyna ni rili; heblaw’r headphones, all quiet on all fronts. Ai jyst fi yw e?

Anubis, Ummh - Clwb Ifor 19/03/05



Grand Slam

Cymeriadau diddorol ar strydoedd y ddinas


'Stafell gefn yr Halfway yn fôr o grysau cochion

11.3.05

Melys, Toucan, 10/03/05



Lluniau

Mynwent y Box, Llanelli

Gelli fe elli yn Llanelli

Dyna oedd arwyddair Seddfod 2000 Llanelli os chi’n cofio! A rwy yn… Pum mlynedd yn ôl o’n i’n ddisgybl disglair yn Chweched y Strade, a’n strytio gyda’r gorau mewn seremoniau croesawi, sioeau cerdd a phwyllgorau ieuenctyd, yn stumio-canu'r fath berlau a...



“Dewch bawb i barc y Sandi,
Daw Gwyl Dwy fil i’n bro ni
Ffarweliwn oll a’r
ganrif hon
Cawn hwyl yn wyl Llanelli…”

Allen i fynd mlaen hyd syrffed – gofynwch i fi ‘neud rwtin tro nesa wy’n pissed (os y’ch chi heb weld yn barod… ) Ta beth – ble o’n i? Mor ddifyr ag y mae’r atgofion yma, mae Maes Steddfod Llanelli wedi symud mlaen. Wele isod luniau o’r ganolfan groeso newydd yn y bae (!) a’r gwaith adeiladu sydd bellach wedi cymryd lle ein tent mawreddog.




…a’r tent fawreddog, heddwch i’w lwch.

Tŷ hen bobl

Falle fyddech chi’m yn dyfalu, ond ‘nes i dyfy lan mewn Ficerdy, felly dyw Dad a Mam erioed wedi perchen tŷ ‘u hunain… tan nawr! Wele’r bungalow. Gyda Mam wedi ymddeol rhai misoedd yn ôl, mae’r ‘olds’ wrthi’n pluo nyth newydd draw sia Tymbl (uchaf, thenciw ;) a ges i’r fraint ac anrhydedd o aros draw ‘na penwythnos diwetha. Aaaaah.




2.3.05

Gig Sleifar a'r Teulu, 26/2/05, Clwb Ifor.



...gyda Bleiddes ar y meic/ ffag : )