26.4.05

Diwrnod o 'neud dim

Ac wrth edrych am lyrics cân gan Ladytron, des o hyd i flog Monomood, sy'n crybwyll stori ddifyr am eirch ffantasiol. Mae'r stori'n hen un erbyn hyn, ond mae'r lluniau ar wefan y BBC dal yn wych.



Wy am yrru e-bost at fy Mharchedig Dad :)

25.4.05

Y Sgript a'r Ddelfryd Rhamantaidd

Heddiw wy fod i ddod i ben a'r sgript ffilm fer. Mae'r hen beth wedi newid yn aruthrol ers dechrau wythnos diwetha (mae un dyn wedi newid ei gymeriad ddwywaith cyn troi'n ddau ddyn ar wahan, ac mae trydydd wedi ymuno â nhw heddiw...) Mae'n gallu bod yn anodd cadw trac! Beth bynnag, mewn un golygfa (pum dydd oed), mae gen i fy mhrif gymeriadau yn chwarae gêm ddyfalu (chi'mbo, 'da rizlas ar 'u talcennau...?) a camp heddiw oedd penderfynnu pa arwyr Rhamantaidd sy'n cynrychiolu'r wybodaeth wy am gyfleu am fy nghymeriadau i orau! Oherwydd 'nny, wy wedi bo'n cael hwyl yn chwilio gwgl. Ma 'na ambell i ddolen ddifyr isod:
Prifysgol Indiana
Yr artist newynnog
Pwy yw'ch arwr rhamantaidd chi?

...a ma hwn jyst yn sgeri!
Rhestr o holiaduron disturbing

Mae'n dod yn fwy fwy amlwg bob dydd pa mor gynnil ac union sydd angen bod pan mai ond 10 munud sydd gennych chi i gyflwyno cymeriadau a dangos eu taith. Ta beth - wy newydd gwpla'r drafft fydd yr actorion yn defnyddio i ymarfer, so wy am fod yn smyg am noson (tan i fi ddod i gwaith a sylwi'r holl dyllau bore fory...)

22.4.05

Infomania yn 'neud chi'n thick like...

Tybed ydi caethiwed i fforymau trafod Cymraeg yn cyfri... : /

21.4.05

Pethau i wneud pan chi'n ddiflas

Bach o hit and miss, ond ma rhai o nhw'n glasuron.

Mamogramau am ddim

Os ddilynwch chi'r ddolen uchod i wefan 'The Breast Cancer Site', mae 'na gyfle i helpu cynnig mamogramu am ddim i fenywod llai breintus drwy glicio'r botwm pinc ar y dalen groeso. Mae angen i'r wefan gwrdd quota dyddiol er mwyn cynnig hyn, ac mae'n hawdd iawn i ni helpu felly piciwch draw.

Diogelwch

Rwy 'di cael cwpwl o e-bostau'n ymwneud â diogelwch wythnos 'ma - mae'n werth gyrru nhw 'mlaen at gymaint o bobl ag sy'n bosib, felly dyma nhw.
About 3 weeks ago, I was at the Shell station in London getting diesel. It was about 11:30 pm. I was approached by 2 men and 2 women in a car. The man that was driving asked me "What kind of perfume do you wear?" I was a bit confused and I asked him "Why?" He said "We are selling some name brand perfumes, at cheap prices. "I said I had no money. He then reached out of the car and handed me paper that was laminated and it had many perfumes on it. I looked quickly at it and gave it back. I said, 'I have no money'. He said 'It is OK, we take cheque, cash or credit cards'. Then the people in the car began to laugh. I got in my car and said no thanks.
Today I received this e-mail and it sent chills up my spine. Be careful. I was approached yesterday afternoon around 3:30 pm in Tesco car park in Sheffield when two males asked what kind of perfume I was wearing. Then they asked if I'd like to sample some fabulous scent they were willing to sell me at a very reasonable rate. I probably would have agreed had I not received an e-mail some weeks ago warning of a 'Wanna smell this neat perfume?' scam. THIS IS NOT PERFUME...IT IS ETHER! When you sniff it, you'll pass out. They'll take your wallet, your valuables and heaven knows what else. If it were not for this e-mail, I probably would have sniffed the 'perfume' but thanks to the generosity of an e-mailing friend, I was spared whatever might have happened to me.

..............................................................................
This is from a Rotherham Police Officer. Imagine you walk across the car park, unlock your car and get inside. You lock all your doors, start the engine and shift into reverse. You look into the rear-view mirror to back out of your parking space and you notice a piece of paper stuck to the middle of the rear window. You unlock your doors and jump out of your car to remove the paper (or whatever it is) that is obstructing your view.... When you reach the back of your car, the car-jackers appear out of nowhere, jump into your car and take off. Your engine would be running (Ladies would have their handbag in the car) and they practically mow you down as they speed off in your car. BE AWARE OF THIS SCHEME THAT IS NOW BEING USED Just drive away and remove the paper from your window later and be thankful you read this notice. PLEASE inform all friends and family, especially women.

19.4.05

Pwy sy'n rheoli'n nhroed i?!

Ymarfer:
1. Tra fod chi'n esgus gweithio wrth eich desg, trowch pigwn eich troed dde fel bod eich troed yn gwneud cyfres o gylchoedd gyda'r cloc.
2. Nawr, tynnwch lun '6' yn yr awyr gyda'ch llaw dde.

3. ...Mae'ch troed dde chi wedi newid cyfeiriad.

Sbwci

Pictiwrs yn y Pyb

14.4.05

Y Ffilm Fer

Wel, mae'n debyg bydd sgript Dwlwen yn cael ei ffilmio dechrau mis nesa. Rwy newydd gael cyfarfod gyda'r cyfarwyddwr, ac ar fin mynd ati i sgwennu ail ddrafft. Mae'n stori am ferch mewn mwgwd erbyn hyn - well i fi gadw'r esboniad yn syml... Cachu pants wrth feddwl bod misoedd o fwydro'n mynd i droi'n realiti yn fuan iawn.

Ecseiting though.

Sgandal y Pebyll

Ma Mr. Gasyth Maes E yn brysur casglu enwau ar gyfer llythr swyddogol. Gyrrwch eich cefnogaeth i'r cyfeiriad yn y neges isod.

Annwyl bawb,

Fel y gywddoch o bosib, mae'r Eisteddfod genedlaethol yn
bwriadu gorfodi unrhywun sydd am wersylla ym Maes Ieuenctid yr Eisteddof eleni i dalu am docyn i Maes B hefyd, gan olygu y bydd yn costio £10 y noson i aros yn y maes ieuenctid ddiwedd yr wythnos, boed chi eisiau (neu yn gallu!) mynd i gigs Maes B neu beidio. Tydi talu £2.50 am gampio yn unig ddim yn opsiwn!!! Mae hyn yn anheg ar bobl ifanc, ar bol sy'n perfformio yn a threfnu digwyddiadau eraill, ac yn groes i bwrpas yr Eisteddfod fel gwyl diwyllianol sy'n apelio at bawb.
Dyma lythyr fydd yn cael ei anfon at drefnwyr yr Eisteddfod yn mynegi gwrthwynebiad. Os ydych am ychwnegu eich enw at y llythyr danfonwch eich enw a tref/pentre at aledelwyn@hotmail.com. Os yn berthnasol, nodwch hefyd unrhyw gymdeithas neu sefydliad rydychyn ei gynrychioli.


Maes Carafanau amdani flwyddyn yma te.

Chwilio am rhywbeth i wneud nos Sadrwn...?



'Neith e'r tro i fi - ma "gwestai arbennig(winc)" fod ddod hefyd, ond sai hanner digon cwl i wybod pwy.

7.4.05

Y Moddion/ DJ Garmon Lard - Goat Major - 20/4/05



Beth yw hyn?
Penillion swynol gan ferched Gilespie i'w ddilyn gan detholiad o recordiau 7" Cymraeg un o drigolion mawr-ei-alw y sîn.

Yr Abri heb Jess

Hwyr wy'n gwybod - ond mae'r llun o Crav a Ceri werth aros amdani...