28.9.05

Francis Hamel



Rhaid cyfaddef 'mod i wedi bod yn hynod eiddigeddus ers darllen am bwrcas (ych o air, sori) diweddar Bloghebenw, a ma'r diawl bach ar 'y'n ysgwydd i 'di bo'n tampan "fi mo'yn fi mo'yn fi mo'yn" ers dyddie. Mae gweithiau pob un o deulu'r Marsdens (a gweddill catalog Fountain Fine Art) wir yn hyfryd, ond yr hyn rwy wedi addo i'm hun ers graddio yw llun o Rhydychen. Ro'n i wedi gweld peintiadau Francis Hamel o'r blaen, ac wedi digaloni wrth weld y pris hollol anaddas i boced minor-cyfryngi llawrydd, ond yna, 'nes i daro ar y dudalen printiau. Hwre! Mae arddull ei luniau mor hyfryd, a'r rhai o'r ddinas yn y glaw yn taro awyrgylch y lle ar ei phen.Dwy heb benderfynnu pa lun i fofyn eto, ond dwi'n eitha sicr fod y diawl bach ar fin cael ei daweli...

22.9.05

3/10/05 - Dyddiad i'ch dyddiadur

20.9.05

Duw a Wyr 23/09/05

19.9.05

Graffiti Abertawe

15.9.05

Ar goll



Dychmygwch ddod o hyd i barot yng Nghaerdydd...

Bai Ellen oedd y cyfan...

Mae'r Parchedig Pat Robinson, un o gefnogwyr mwya brwd a chyfoethog George Bush, wedi datgan ei farn unigryw ar achos corwynt Katrina:
This is the second time in a row that God has invoked a disaster shortly before lesbian Ellen Degeneres hosted the Emmy Awards," said Pat. "Is it any surprise that the Almighty chose to strike at Miss Degeneres' hometown?... God already allows one awards show to promote the homosexual agenda. But clearly He will not tolerate such sinful behavior to spread beyond the Tonys.

Diolch i Popbitch am y stori.

12.9.05

Lein yp Klwb tan Dolig...

*gosod: dolen i Clwb Ifor Bach, ond yn anffodus dyw'r wefan ddim eisiau bod yn ffrindiau 'da fi hediw*

15/09/05 – STONC!
KENTUCKY AFC / DYFRIG EVANS (Topper) / PLANT DUW / DJ HUW STEPHENS – 9pm - £5 / £4

24/09/05 – Noson Label Rasal – lansio CD goreuon “Y Cyrff”
ALUN TAN LAN / MAHARISHI / DAN AMOR / JEN JENIERO
9pm - £5 / £4

06/10/05 – ACWSTORAMA
GWILYM MORUS / BRIGYN / GARETH PHILLIPS
8pm - £5 / £4

13/10/05 - STONC!
SIBRYDION / Y BRIWSION / PWSI MERI MEW / DJ IAN COTTRELL
9pm - £5 / £4

22/10/05 – CWPAN CORONI BRWYDR Y BANDIAU 2005
Y DERWYDDON v NO STAR / JAVA

29/10/05
POPPIES + CEFNOGAETH / DJ HUW STEPHENS

03/11/05 – ACWSTORAMA
CARYL PARRY JONES + HUW CHISWELL / AL LEWIS

05/11/05 CYMRU V SELAND NEWYDD
DRYMBAGO / RASPUTIN / Y DI PRAVINHO / DJ ELFIS IFANS

17/11/05 – STONC!
COFI BACH + TEW SHADY / SYN-D-CUT / Y LLOFRUDDION / DJs LLWYBR LLAETHOG
9pm - £5 / £4

19/11/05 – CYMRU V DE AFFRICA
GILESPI / BOB / PALA / DJ ELFIS IFANS

26/11/05 – CYMRU V AWSTRALIA
MATTOIDZ / Y BRODYR JONES / GAREJ DOLWEN / DJ ELFIS IFANS

01/12/05 – ACWSTORAMA
HEATHER JONES / GWYNETH GLYN / LOWRI EVANS

13/12/05 – PARTI ‘DOLIG STONC!
UMMH / TŶ GWYDR / MWSOG / DJ Sion Corn
9pm - £5 / £4

31/12/05 – NOS GALAN @ Clwb Ifor Bach
3 llawr o hwyl gyda –
ASHOKAN / RADIO LUXEMBOURG ar y llawr uchaf

Seiclo o Ferthyr i Gaerdydd

Chi'n gwbo'r tripiau 'na fyddwch chi'n trafod yn y pyb am fisoedd sy' byth yn digwydd? Wel ma'r un 'ma wedi. Trên i Ferthyr, beic i Gaerdydd. Ges i girlie strop rhwng Pontypridd a Ffynnon Taf, ond 'blaw hynny (a'r poen annychmygol yn fy nghluniau) odd e'n hwyl a sbort a miri mawr :)







...a thra bod ni yno

'Nethon ni feddwl, 'r un man manteisio ar daith o dwr yr Eglwys. Dyma'r golygfeydd.



Dydd Agored Eglwys St. Ioan

Wel, 'na chi benwythnos brysur. Ar ôl cyfarfod y Gwahanglwyf yn Chapter am ddrincsen fach, cafon' ni'n dau'n railroado perswadio i fynd draw i ddiwrnod agored Eglwys St.Ioan, yng nghanol y brifddinas, bore Sadwrn er mwyn darlunio llestri'r allor, obviously... Dyma'r campweithiau y creuwyd.


gan Geraint

gan Mair

8.9.05

Moblogio

Digwydd edrych drwy'r moblogiau heddi 'ma, a be ddes i ar draws?

Ma'r boi bach yn edrych yn reit betrus ond yw e? Diolch Meic P.

6.9.05

Bombon el pero



Ffilm fach neis o Batagonia es i i'w gweld yn Chapter ar ôl oriau o lanhau dydd Sul. 'Mond dyrnaid o adolygiadau yn Sbaeneg ac erthygl Ffrangeg dwi 'di ffeindio hyd yn hyn - felly adolygiad Cymraeg i Pictiws amdani... heno... neu fory, falle...

Gol: Ta-daaaaa

Cwis Tafarn y Goat

Rhybudd/ Hysbyseb...

...canlyniad dwy awr ym marbeciw Cravos i un pyntar diniwed. Gwd show.

backlog... boncy... na.

Trip i Dyddewi oedd hi dros benwythnos gwyl y banc, dyma ambell i lun o'r Gadeirlan, y Canondy a thraeth Niwgwl...