27.7.06

Siarc Marw...

…Rhifyn 4 baby! A phwy fase 'di meddwl byddai’r cyd-olygyddion yn llwyddo godded i gilydd cyhyd? Nid fi... ;)

Ta beth, ma edau'r ffansin yn prysur glymu at 'i gilydd, a'r CD amlgyfrannog wedi'i gyrru at ddyn neis yn y cymoedd sy'n mynd i wneud 120 copi i mi am bris teg iawn. Yr enw bydd 'Cawl Siarc' mae'n debyg, a bydd e'n cynnwys traciau gan Jakokoyak, Cowbois Rhos Botwnnog, Cate LeBon, Merched Mecca, Stabmaster Vinyl a'r Prics, ymysg eraill. Bydd y ffansin 'i hun yn cynnwys darnau ar y Diwygiad, albym diweddara' Traw a Rhodri Davies, ffilmiau byrion Siôn Mali a Prosiect 9, sef cwmni newydd i ddatblygu a llwyfannu theatr newydd yn y Gymraeg. Sori os yw e'n swnio fel bwrw bol - ond mae'n rhyfeddol i fi cymaint o straeon cyffrous ry'n ni 'di llwyddo'u darganfod... Fydd yr erthyglau 'u hun yn fater arall - mae'n sicr mai hon fydd y ffansin a'r mwyaf erioed o'n sgwennu i a'r Gwahanglwyf ynddi (ry'n ni fel arfer yn gorfodi'n ffrindiau i wneud!) ond mae'n gyd-gyfranwyr wedi bod mor hynaws ag arfer (sy'n fy atgoffa i fod angen i ni sgwennu golygyddol a diolchiadau, Geraint, os wyt ti'n darllen.)

Ta beth, ddylai'r cyfan fod yn barod ganol wythnos nesa', a byddwn ni'n sicr yn llusgo sach neu ddwy gyda ni i'r Eisteddfod. Oherwydd costau'r CD, bydd rhaid i chi dalu am y ffansin (am y tro cynta', ...sori) ond dwi'n gobeithio bydd £3.50 werth e (os 'ych chi’n archebu trwy wefan sebon.)

Ond yn gyffredinol - Siarc Marw 4 - hwreee!

3.7.06

Cachu Cymylau

Dwi 'di bod yn ceisio argyhoeddi'r maes i wrando ar albym newydd Final Fantasy, 'He Poos Clouds' - a waeth i fi ailadrodd 'y'n hun yma. Albym wedi'i sgwennu ar gyfer pedwarawd llinynol yw hi gan fwyaf, â phob cân yn ymhelaethu ar thema ganolog gemau cyfrifiaduron... nid bod fi wir yn deall rhyw lawer am hynny. Debyg fod e rhywbeth i wneud â 'Dungeons and Dragons' (ond alla i sicrhau fod ddim angen deall y cyfeiriad yna er mwyn mwynhau'r albym.) Ta beth, wedi ychydig o ymchwilio, dyma fi'n dod o hyd i'n hoff gân i oddiar yr albym ar flog The Hype Machine. 'Arctic Circle' yw 'i henw - a mae'n hyfryd, oce? Albym y flwyddyn hyd yma, yn sicr - lan 'na gyda Sufjan Stevens a Joanna Newsom ar y'n rhestr i ta beth.

Cwpwl o nodyns erill gan bo' fi 'ma.
1. Lluniau newydd-ish ar Flickr - o Wyl y Gelli a Pharti Ieir yn Nhipis Brychan Llyr
2. Erthygl ddoniol yn yr Independent am y gampwaith ffilmic a fydd 'Snakes on a Plane'. Wy'n archebu tocyn heddi...