14.4.05

Sgandal y Pebyll

Ma Mr. Gasyth Maes E yn brysur casglu enwau ar gyfer llythr swyddogol. Gyrrwch eich cefnogaeth i'r cyfeiriad yn y neges isod.

Annwyl bawb,

Fel y gywddoch o bosib, mae'r Eisteddfod genedlaethol yn
bwriadu gorfodi unrhywun sydd am wersylla ym Maes Ieuenctid yr Eisteddof eleni i dalu am docyn i Maes B hefyd, gan olygu y bydd yn costio £10 y noson i aros yn y maes ieuenctid ddiwedd yr wythnos, boed chi eisiau (neu yn gallu!) mynd i gigs Maes B neu beidio. Tydi talu £2.50 am gampio yn unig ddim yn opsiwn!!! Mae hyn yn anheg ar bobl ifanc, ar bol sy'n perfformio yn a threfnu digwyddiadau eraill, ac yn groes i bwrpas yr Eisteddfod fel gwyl diwyllianol sy'n apelio at bawb.
Dyma lythyr fydd yn cael ei anfon at drefnwyr yr Eisteddfod yn mynegi gwrthwynebiad. Os ydych am ychwnegu eich enw at y llythyr danfonwch eich enw a tref/pentre at aledelwyn@hotmail.com. Os yn berthnasol, nodwch hefyd unrhyw gymdeithas neu sefydliad rydychyn ei gynrychioli.


Maes Carafanau amdani flwyddyn yma te.