21.3.05

O am gael bod yn ddwys a’n ddifyr…

Bobl bach me’n dawel; y peth mwya cyffrous i ddigwydd i fi ers tipyn yw ffit dagu ges i bore ‘ma – wy dal yn fyw, fyddwch chi’n falch i glywed. Byddai’n difaru temtio ffawd whap me’n siwr, ond mae pethau mor esmwyth mond lluniau ac ambell fwydring allai gynnig ar hyn o bryd (a ‘llai’m wir meddwl am lot i fwydro hyd ‘n oed!) ‘Nath Dydd Sadwrn ddod a mynd fel y disgwyl â digon o ddathlu yn gig Ummh gyda’r hwyr (wele luniau...) Yna es i i am dro ddoe (ni wele luniau achos ‘nes i anghofio’r camera.) Wy ‘di bo’n gwrando ar dipyn o gerddoriaeth os yw hynny o iws – Rough Trade: Counter Culture 2002, [caneuon Polyphonic Spree (Soldier Girl), Bright Eyes (Lover you don’t have to love), a’r Yeah Yeah Yeahs (Bang) yn enwedig], Antholeg Minnie Ripperton(Les Fleurs...), Poses gan Rufus Wainwright a Who is Jill Scott – hyfryd hyfryd iawn un ag oll. A dyna ni rili; heblaw’r headphones, all quiet on all fronts. Ai jyst fi yw e?

2 Sylwadau:

At 4:31 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Na, mae pawb yn crap o dawel. Hen bryd i ni shiglo'r cwt ieir, medde fi, fel Sion Blewyn Coch (ar speed).

 
At 12:58 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Gen ti ddêl, gobl gobl... sori - na'r unig Sion Blewyn quote wy'n cofio :S

 

ychwanegu sylw

<< sia thre