28.9.05

Francis Hamel



Rhaid cyfaddef 'mod i wedi bod yn hynod eiddigeddus ers darllen am bwrcas (ych o air, sori) diweddar Bloghebenw, a ma'r diawl bach ar 'y'n ysgwydd i 'di bo'n tampan "fi mo'yn fi mo'yn fi mo'yn" ers dyddie. Mae gweithiau pob un o deulu'r Marsdens (a gweddill catalog Fountain Fine Art) wir yn hyfryd, ond yr hyn rwy wedi addo i'm hun ers graddio yw llun o Rhydychen. Ro'n i wedi gweld peintiadau Francis Hamel o'r blaen, ac wedi digaloni wrth weld y pris hollol anaddas i boced minor-cyfryngi llawrydd, ond yna, 'nes i daro ar y dudalen printiau. Hwre! Mae arddull ei luniau mor hyfryd, a'r rhai o'r ddinas yn y glaw yn taro awyrgylch y lle ar ei phen.Dwy heb benderfynnu pa lun i fofyn eto, ond dwi'n eitha sicr fod y diawl bach ar fin cael ei daweli...