Seiclo o Ferthyr i Gaerdydd
Chi'n gwbo'r tripiau 'na fyddwch chi'n trafod yn y pyb am fisoedd sy' byth yn digwydd? Wel ma'r un 'ma wedi. Trên i Ferthyr, beic i Gaerdydd. Ges i girlie strop rhwng Pontypridd a Ffynnon Taf, ond 'blaw hynny (a'r poen annychmygol yn fy nghluniau) odd e'n hwyl a sbort a miri mawr :)
5 Sylwadau:
'as blydi cheatin' mun. Ma fe down-hill yr holl fordd o Ferthyr! Na, chwarae teg i chi, dwi di seiclo o Gaerdydd i fyny i Bontypridd cwpwl o weithie ond erioed di mynd yn bellach.
Syniad neis iawn. Lluniau neis iawn 'fyd. Sut mae Criddle wastad yn edrych mor ffein mewn lluniau?
Alla i ddim yn stopio chwerthin ar 'Alan U R such a lier + a freek.' Graffiti sarhad ydy ef, heb bod yn sarhaus go iawn.
Blogel - ma'r tren yn stopio yn Merthyr arnai ofn, a ma'i tua 25 milltir o fan'na i Gaerdydd. 'Nes i'ngorau glas i ffindo mas os oedd angen bwcio lle i'r beiciau, ond ges i'm sens gan Rail enqiries na Traveline, so 'nethon ni jyst droi lan 'da 3 beic (odd 2 arall 'na'n barod.)
Yn ystod yr haf, ma 'na fws arbennig i feicwyr yn teithio i Aberhonddu bob bore Sadwrn. B1 yw rhif y gwasanaeth ond mae'n benni ar Awst 31.
Wy'n dwli ar y graffiti hefyd Chris :D
Alan is such a liar who would have thought ...
ychwanegu sylw
<< sia thre