19.9.04

17/09/04 - Gig Cymdeithas yr Iaith, Cerfyrddin.

Mae wastad yn brofiad eitha swreal dychwelyd i hen 'haunts' eich plentyndod - a rwy dal mewn sioc heddi o sylweddoli fod Tafarn y Spread Eagle, hynny yw Spreads yng Nghaerfyrddin, bellach wedi'i leoli yn Crisp and Fry (sy wedi croesi' gro's y stryd), a fod llawr laminate a llechi ffug wedi disodli'r llwch a chippings o'n i'n cofio. Mae'n ymddangos fod Caerfyrddin am droi'n 'trendy' - pob hwyl iddi, ond llai'm help hiraethu'r atgof o le bach didwyll o scabby lle oedd y Vengaboys yn chwarae ar loop.... Falle ddim! Bethbynnag, pwrpas yr ymweliad oedd mynychu gig Cymdeithas draw yn Neuadd San Pedr, lle fu'r bandiau ifanc Garej Dolwen, Rasputin a Java ddiddanu'r gynnulleidfa cyn i MC Sleifar a Chef, ac yna Mattoidz ddod i'r llwyfan.
Pleser oedd gweld gymaint o bobl ifanc yno i gefnogi'r bandiau agoriadol - mae'n amlwg eu bod nhw wedi mwynhau setiau Garej Dolwen a Rasputin, gan neidio i ddawnsio a gadael ni'r hen stejars i rhyfeddu o'n seddau. Bechod mai rhyfeddu'n y ffordd gwaetha posib wnes i - o'n i ddim yn keen ar arlwy'r naill fand, er mae'n siwr fod potensial yno i ddyfodol y Sin Roc. Roedd Java, ar y llaw arall, yn wych yn fy marn i. Mae llawer yn barnu fod y lleisydd yn dibynnu'n ormodol ar ddylanwad y Red Hot Chilli Peppers, ond yr oll welais i oedd band oedd wir yn mwynhau bod ar y llwyfan yn llwyddo i gyflwyno set o ganeuon gwych a'n diddanu a'u perfformiad o'r cychwyn. Da Iawn wir!
Chef a Sleifar ymddangosodd nesaf - a 'nes i gyffroi'n lan! Cynigwyd set o ganeuon o'r albym 'Miwsic i'ch Traed a Miwsic i'ch Meddwl', gyda tipyn o freestylo gan Chef (oedd yno i gefnogi Sleifar gan fod LoCut ddim ar gael) ac yna dwy gan Tystion. Roedd 'Radio Amgen' a 'MOMYFG' yn uchafbwyntiau i'r set ac i'r noswaith. Gymaint ag wyf fi'n dwli ar stwff LoCut&Sleifar, byddai'n wych clywed Sleifar a Chef yn cyd-weithio mwy yn y dyfodol, hmm sgwni...
Mattoidz oedd olaf i'r llwyfan a'u set dibynadwy o anthemau rock cyfoes! Roedd hi braidd yn chwith heb Gareth Delve (bas) yn canu'r harmonis, ond roedd y band dal yn gadarn a'n hyderus, a'r gynnulleidfa wrth eu boddau!

Pob hwyl i'r Gymdeithas â'r ymgyrch yn erbyn Radio Carmarthenshire!