And all that Jazz
Wel am syrpreis fach neis! Neithiwr 'nes i grwydro draw i Cafe Jazz ar Heol Eglwys Fair i glywed Gwyneth Herbert a'i band yn perfformio casgliad o glasuron jazzy a chaneuon o'i albym newydd 'Bitersweet and Blue'. Mae ganddi lais anhygoel a 'nes i wirioni'n llwyr a'i pherfformiad o 'Let's Stay Together' yn enwedig. Os gewch chi fyth gyfle i glywed hi, ewch da chi! ...ond peidiwch disgwyl i Noel Hearsay fod yno!




O.N. Os chi wir eisiau gweld Noel, bydd e'n perfformio yn y Mardi Gras yng Nghaerdydd penwythnos yma.
1 Sylwadau:
Wel mae sylwadau'n gweithio nawr!
Jyst neges sydyn i ddweud croeso i'r Rithfro. Mae'r safwe'n ddiddorol - yn arbennig am fod lluniau arni. Hoffwn i weld lluniau o fywyd hogyn o'r achub - ond basa fe'n colli ei gamera mae'n debyg.
ychwanegu sylw
<< sia thre