Penwythnos, Pen-Blwydd, Pen Tost
Wedi i mi fethu'r ddrama mae'n ffrind i Alex yn Is-Gyfarwyddwr iddi, Football, a mynd am swper gyda Mam a Dad yn lle, es i draw i Chapter Nos Wener i sgyrsio â Alex a'r rheini lwyddodd weld y perfformiad, ac i ymddiheuro drosodd a throsodd am fod yn ffrind mor wael. Falle 'neith plyg fach fan hyn fymryn i ad-dalu'r ddyled!
'Mlaen a ni i Nos Sadwrn - Pen-Blwydd Hapus Crav! Meddwl gafodd pawb lot o hwyl yn y Brasserie, ac yna'r Toucan - mae'n siwr gafodd pawb lot o hwyl ar ôl hynny nôl yn ty hefyd, ond llai'm wir gynnig sylwad am mai'r oll allai gofio yw canu 'Pethau Achlysurol' (allan o diwn) gyda CD Alun Tan Lan, arllwys Gin, ac yna dihuno am 11 bore wedyn... Mae'n siwr fod gwers i ddysgu o'r brofiad yna'n rhywle!






2 Sylwadau:
Sbwci - fel o'n i'n darllen hynna, o'n i'n gwrando ar fersiwn Alun Tan Lan o 'Pethau Achlysurol'...
Cravos mewn siwt? Beth nesa?
Penblwydd hapus 'chan.
ychwanegu sylw
<< sia thre