26 - 30.10.04 - Epa yn y Parlwr Cefn, Chapter, Caerdydd
Mae Cwmni Drama 3D yn ôl a'u ail gynhyrchiad, chwarae teg iddyn nhw. Dyma'r blyrb o wefan y Theatre yng Nghymru:
"Dyma gynhyrchiad newydd o ddrama bwerus Sion Eirian gan Gwmni Theatr 3D. Hanes tair putain wahanol iawn sydd yma – Mary, Bethan a Linda. Myfyrwraig o gefndir breintiedig yw Bethan, sy’n puteinio er mwyn talu am ei lle yn y coleg. Mae’n boendod i Linda, sy’n butain ifanc, surbwch, ond gwelwn y ddwy yn eu tro yn ffoi o’u sefyllfaoedd drwy eu hatgofion a’u dychymyg. Putain brofiadol, wedi ei chaledu yw Mary. Ystyriwn yr hyn sydd fwya’ anfoesol – galwedigaeth drist a diflas y merched, neu drachwant ffasiynol a dienaid eu lanlord, Scoot? Ai niwroses rhywiol ein cymdeithas sy’n gyfrifol am gynnydd puteinio, neu’r amodau cymdeithasol dinistriol cynyddol? Nid ceisio ateb yr amlwg a wneir, ond creu darlun bras o fywyd pedwar cymeriad, mewn un gornel fach o’r cynfas. Anaddas i rai dan 16."
Byddai'n mynychu'r Noson gyntaf heno - edrych mlaen yn arw a'n croesu popeth allai feddwl i groesi dros y genod.
Mae tocynnau'n £4/£5 a'r perfformiadau'n dechrau am 8 bob nos tan Nos Sadwrn.
1 Sylwadau:
Few, roeddwn i'n meddwl o ddarllen dy neges ar maes-e mai mond heno (nos Fawrth) oedd o ymlaen ac y byddwn yn ei fethu.
ychwanegu sylw
<< sia thre