15.10.04

Gwobr Barddoniaeth John Tripp

Fi braidd yn hyngofer heddi ar ôl lordio hi gyda'r beirdd yn rownd Caerdydd o'r gystadleuaeth yma neithiwr. Roedd dau ffrind yn cystadlu, ond gafodd y naill wobr.
Cystadleuaeth barddoniaeth lafar yw hi, felly roedd perfformiadau'r beirdd yn holl-bwysig, ac mae'n rhaid cyfaddef ces i noson ddigon difr yn clywed y cerddi a'n rhyfeddu at rhai o'r eccentrics oedd yn eu perfformio! Mae rownd terfynnol y gystadleuaeth yn cael ei gynnal ar Tachwedd 26ain yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

2 Sylwadau:

At 5:27 PM, dywedodd...Blogger Nwdls

Ddaru ffrind i fi gystadlu: boi o'r enw Gavin o Ostrelia. Dwn im sut naeth o eto, heb siarad a fo. O'n i'n fod i fynd y'n hun ond ddoth rwbath arall fyny. :(

 
At 10:38 AM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Oes gan Gavin wallt cyrliog tywyll? Os mai fe yw e 'nath e ddim ennill, ond odd gan e gerdd eitha doniol oedd 'ddim am rhyw' : )...
Doedd Ninja ddim yna, ond roedd 'na fenyw tua 70 oed ag acen Dwyrain Ewrop (falle?) mewn sgert pinc a siwmper coch yn swingio handbag wrth berfformio - baswn i'n hoffi gweld hi a Ninja head to head.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre