2.11.04

Ar grwydr

Ma pethau'n brysur 'ma ar y foment - braidd yn cael amser i gnecu ys y dywed rhywun rhywdro... Ond ta waeth 'nai wibio trwy helyntion y dyddiau diwetha er mwyn cadw trac.
Ar ôl treulio Dydd Iau a Dydd Gwener yn cymoni'r tyrrau o fitsach aeth y tri o'ni o'r ty newydd draw i Abri (eto) yng Nghlwb y Toucan (eto.) Cyfle neis neis i ddal lan â cwpwl o wynebau fu ar goll o Gerdydd dros yr Hâf (Iasu - mae biti fod yn 'Dolig nawr!) ac i glywed Saizmundo a LoCut & Sleifar yn wawio criw Higher Learning. Roedd hi'n braf hefyd clywed y rapiwr Wez Cooze yn agor y noson - boi difyr iawn â geirfa eang iawn ym maes afiechydon rhywiol, a digon o hyder/hyfdra i wahodd Sleifar i'r llwyfan am bach o freestylo. Roedd Ruffstylez yn dda iawn hefyd - ond 'nes i'm clywed gymaint o'i set gan fy mod, erbyn hynny, yn ceisio ateb dadleuon y Gwahanglwyf parthed dwyieithrwydd Abri a line-up mis nesa... Wedyn gofies dau beth: fod dim cyfrifoldeb arna i i gyfiawnhau'r noson, a fod fawr o neb yn talu sylw i Gwahanglwyf eniwe, felly nôl i ddawnsio â fi ; ) Aeth pethau braidd yn flêr o fan'na, felly nai'm hyd yn oed fentro cynnig adolygiad, 'mond canmol y DJo rhwng sets a'r teyrnged lyfli o 'Radio Amgen' i John Peel.

Reit, so lle y'n ni nawr? Dydd Sadwrn. 'Nes i'm llawer o ddiddordeb, jyst mynd i grwydro rownd Treganna a dod o hyd i Barc Thompson. Dyma un o'r llefydd hyfryta' i fi weld yn y ddinas erioed. Braidd yn siomeig mod i heb gael lluniau, ond 'nai'n sicr ddychwelyd yno rhyw benwythnos eto i geisio dal prydferthwch y lle. Mae'n hollol hudol; llyn hwyaid wrth i chi fyned o Heol Romilly ac yna llwybrau gwyllt eu golwg drwy tir coedwig i bob cyfeiriad. 'Nes i ddilyn un fynny bryncyn, dan ganopi â phadera gwiwerod drwy frigau'r coed. Ar y copa roedd 'na faes agored wedi'i gylchu gan hen goed â golygfa o'r haul yn machlud yn y gorllewin. Dan rhywfath o swyn ma rhaid, grwydrais i nôl i'r ty clud, a yna draw i Chapter i ddal perfformaid ola Cwmni 3D o ddrama Sion Eirain. Wy'n meddwl fyddai'n hapus yn y lle newydd 'ma.

Cerflun boncyff ym Mharc Thompson