11.3.05

Gelli fe elli yn Llanelli

Dyna oedd arwyddair Seddfod 2000 Llanelli os chi’n cofio! A rwy yn… Pum mlynedd yn ôl o’n i’n ddisgybl disglair yn Chweched y Strade, a’n strytio gyda’r gorau mewn seremoniau croesawi, sioeau cerdd a phwyllgorau ieuenctyd, yn stumio-canu'r fath berlau a...



“Dewch bawb i barc y Sandi,
Daw Gwyl Dwy fil i’n bro ni
Ffarweliwn oll a’r
ganrif hon
Cawn hwyl yn wyl Llanelli…”

Allen i fynd mlaen hyd syrffed – gofynwch i fi ‘neud rwtin tro nesa wy’n pissed (os y’ch chi heb weld yn barod… ) Ta beth – ble o’n i? Mor ddifyr ag y mae’r atgofion yma, mae Maes Steddfod Llanelli wedi symud mlaen. Wele isod luniau o’r ganolfan groeso newydd yn y bae (!) a’r gwaith adeiladu sydd bellach wedi cymryd lle ein tent mawreddog.




…a’r tent fawreddog, heddwch i’w lwch.