25.4.05

Y Sgript a'r Ddelfryd Rhamantaidd

Heddiw wy fod i ddod i ben a'r sgript ffilm fer. Mae'r hen beth wedi newid yn aruthrol ers dechrau wythnos diwetha (mae un dyn wedi newid ei gymeriad ddwywaith cyn troi'n ddau ddyn ar wahan, ac mae trydydd wedi ymuno â nhw heddiw...) Mae'n gallu bod yn anodd cadw trac! Beth bynnag, mewn un golygfa (pum dydd oed), mae gen i fy mhrif gymeriadau yn chwarae gêm ddyfalu (chi'mbo, 'da rizlas ar 'u talcennau...?) a camp heddiw oedd penderfynnu pa arwyr Rhamantaidd sy'n cynrychiolu'r wybodaeth wy am gyfleu am fy nghymeriadau i orau! Oherwydd 'nny, wy wedi bo'n cael hwyl yn chwilio gwgl. Ma 'na ambell i ddolen ddifyr isod:
Prifysgol Indiana
Yr artist newynnog
Pwy yw'ch arwr rhamantaidd chi?

...a ma hwn jyst yn sgeri!
Rhestr o holiaduron disturbing

Mae'n dod yn fwy fwy amlwg bob dydd pa mor gynnil ac union sydd angen bod pan mai ond 10 munud sydd gennych chi i gyflwyno cymeriadau a dangos eu taith. Ta beth - wy newydd gwpla'r drafft fydd yr actorion yn defnyddio i ymarfer, so wy am fod yn smyg am noson (tan i fi ddod i gwaith a sylwi'r holl dyllau bore fory...)

1 Sylwadau:

At 1:32 PM, dywedodd...Blogger dros

'become a blowjob queen in ten easy lessons!' - ma'r linc ola 'na'n ddoniol: diolch! :)

 

ychwanegu sylw

<< sia thre