Graddio
Rhybudd: mae Mair wedi ecseitio. Byddai'n gadael mewn rhyw ddwy awr am Rhydychen, lle gai weld PAWB o'm mlwyddyn coleg i sy 'di bo'n byw bywydau brysur dros y ddwy flynedd ers i ni eistedd finals. Mae'n mynd i fod yn rhyfedd (yn y ffordd gorau posib) ond wy methu aros i weld yr hen le eto a hithau'n un o'r dyddiau heulog 'na sy'n ddelfrydol yng nghanol yr hen adeiladau calch.
Mae'r seremoni bore fory yn y Sheldonian, a wy'n diolch i Dduw fod to honno wedi'i thrwsio - achos roedd sôn un adeg bo ni am raddio yn yr Exam Schools - cefnlen bob hunllef i fi 'rioed 'i gael, lle ddioddefais i 7 papur 3 awr o ffaffio a siarad cachu pur am lyfrau nes i braidd eu darllen... Ah wel, bydd shiglo llaw Lord Patten yn 'neud e i gyd werth e sbo :)
6 Sylwadau:
Dyw, tyd acw am banad! Ma'r holl marquees i fyny yn y colega i gyd yn barod :) Gobeithio gei di ddiwrnod neis, siawns am dywydd braf! I ba goleg es ti gyda llaw?
Jesus - fel y gorau ;) [mae'r spies yn dweud mai fan'na wyt ti, aye?] Penwythnos hyfryd iawn - 'nai bostio am y peth yn y fan.
Licio'r llunia, llongyfarchiada! Dwi newydd sylweddoli pwy di'r Mair yn llyfr cyfrifon y Dafydd...:)
dimond newydd gymryd brec 'ddwrth adolygu cynlluniau'r sheldonian - siwr fydd hi'n lot brafiach bod yna... llongyfarchiada!
Cheers - Braf bod yn y Sheldonian- ond dodd y to heb 'i fixo gwaetha'r modd. Yn lle edrych lan ar luniau hyfryd o wirionedd yn bwrw cenfigen ac anwybodaeth allan, mond cynfas llwyd odd i'n blwyddyn ni 'i weld... Tybed be ma hynna'n argoeli ;)
Chwadan, ti'n Drysorydd? ...Gobeithio bo fwy o arian 'da chi erbyn hyn!
Greaat reading your blog post
ychwanegu sylw
<< sia thre