6.5.05

Yn y Can

Rightiho - mae'r saethu wedi dod i ben, a finne'n cael look drwy'r rushes(y tapiau unedited) cyn bo'r cyfarwyddwr yn golygu ym Mehefin. Fydd hynny'n rhoi digon o amser i fi bellhau'n hun o'r peth - ma rhaid cyfaddef sai'n hapus iawn â'r outcome ar hyn o bryd, teimlo fod y cyfan llawer rhy arwynebol a'n canolbwyntio ar ddigwyddiadau allanol tra mai datblygiad mewnol fy mhrif gymeriad o'n i am ei bortreadu. Ma rhai o'r manylion cyfrin oedd yn bwysig i fi wedi'u scrappo'n gyfangwbl, a manylion mwy 'in your face' y cyfarwyddwr yn tynnu'r sylw.

Mae'n anodd esbonio heb fynd i fanylder, ond yn fras, ffilm am ferch sy'n gwisgo mygydau oedd hon i fod: mae 'Megs' yn cuddio am nad yw hi'n ddigon hyderus i ddelio a phwy yw hi go iawn. Mae'n chwarae gemau cymdeithasol a'n ceisio gyrru'i bywyd ar drywydd ystrydebol sy'n hawdd iddi eu deall - ond mae'r fath fodolaeth arwynebol a ffug yn mynd yn drech na hi; er mwyn bod yn hapus felly mae'n rhaid iddi bwyllo a bod ei hun.

Y broblem yw - dim ond y person ffug alla i ei gweld yn y ffilm. Megs yw'r mwgwd, a does dim llawer arall yno (hyd y gwela i) i brofi fod person o sylwedd tu ol i hwnnw. Bummer. Hefyd, mae rhyw love story corny 'di cripian mewn o rhywle, a wy braidd yn gytted mod i heb sticio at fy ngreddfau ac anwybyddu'r elfen yna. Wrth gwrs, mae llawer yn dibynnu ar y golygu, ond wy'n eitha siwr mai stori am ddatblygiad cariad fydd y ffilm yma, yn hytrach na datblygiad cymeriad.

Falle ddylen i ystyried cyfarwyddo