31.5.05

Rhwng Cwsg ac effro: Hypnagogia/ Hypnopompia

Bore ddoe, dyma fi'n deffro i weld yr haul llachar yn goleuo'r cloc a'r bwrdd bach wrth fy ngwely. Golygfa gyfarwydd, a'r teimlad cyfarwydd fod angen codi a gwisgo a dechrau'r dydd. Ond ro'n i'n methu symud, a dyna sylweddoli mod i dal mewn breuddwyd, heb unrhyw rheolaeth dros fy nghorff, er fod fy llygaid yn gweld a'mhen i wedi dihuno eisioes...
Dyma fi'n trial gwthio 'nghorff o'r gwely - ro'n i'n gweld yr ystafell o'm hamgylch yn glir - ond wrth godi i eistedd, roedd yr hyn o'n i'n ei weld yn troi ar ogwydd, fel petai'r llygaid dal ar y gobenydd tra bod fy nghorff yn eistedd fyny ganol gwely, yn panico braidd bod e ar fin camu o 'na'n ddall gan adael 'i olwg dan gynfas.
Ro'n i'n dechrau poeni, ond parhau i wthio wnes i, ond rhaid fod fy ymwybyddiaeth wedi pylu braidd - ro'n i'n meddwl i mi lwyddo cyrraedd y dror er mwyn dechrau nôl dillad isaf - ond roedd rhywun wedi gwacau hwnnw a gosod un crys coch yn lle'r llanast arferol; 'nes i ddechrau gwylltio gyda Sioned (pam fod rhaid potsian byth a beunydd?!) cyn sylweddoli mai'r freuddwyd oedd yno eto, a 'mod i dal yn fy ngwely, yn edrych ar y cloc. Felly dyma fi'n ceisio codi eto, mwy effro na'r tro cynt, ond methu, eto, a theimlo eto fod rhwyg rhwng yr hyn o'n i'n teimlo'n hun yn gwneud, a beth o'n i'n gweld go iawn. Dyma fi'n gwaeddu (mewn llais bach pell i ffwrdd) i rhywun ddod i'r stafell i'n ysgwyd i o'n hun - ond breuddwyd arall oedd hi, a minnai'n hollol ymwybodol mod i heb waeddu allan go iawn.
Yna, dyma fi'n agor llygaid i'r haul ar yr un olygfa eto, codi i eistedd ganol y gwely, edrych o'm hagylch - ac ro'n i'n effro, wedi drysu braidd, ond yn llawn rhyddhad o gael rheolaeth ar y byd o'nghwmpas eto.

Ymddiheuriadau os nad yw'r pwtyn uchod yn 'neud llawer o synnwyr, ond o'n i am geisio disgrifio'r brofiad er lles 'y'n hun. Hyonogogia yw'r term am y profiadau hanner-effro gall person eu profi, pan mae'r synhwyrau gweld a chlywed yn gweithio fel yr arfer, ond y corff dal dan barlys cwsg (sy'n digwydd er mwyn sicrhau na fyddwn ni'n cyflawni gweithredoedd ein breuddwydion.) Debyg mai Hypnopompia oedd arna i - hynny yw, ymwybodaeth o ddod allan o'r hypnogogia yn hytrach nag o suddo mewn iddo... wy'n credu... Mae llawer o theoriau yn bodoli am y cyflwr - a mae 'na gyflwyniad net yn y ddolen yma.

Most ‘scientific’ accounts of hypnagogia view it much as they do dreaming - a random, meaningless activity of the brain, a means, at best, of clearing its circuits, but more likely just a way of dumping psychic clutter...

...But while dreams are never observed, except for infrequent patches of lucidity,but always analysed after the fact, the same is not true of hypnagogia. With a little practice, anyone can learn how to watch otherwise obscure mental processes at work; processes which, according to some investigators, take place continuously alongside our waking ‘rational’ mental states. As well as providing some fascinating interior entertainment, familiarising yourself with hypnagogia is probably the best and most reliable method of developing a working relationship with your unconscious mind.



Profiad annifyr iawn oedd ysu cymaint i ddeffro a gweld fy nghorff fel tomen ddiymateb er gwetha'r holl ymdrech meddyliol i'w symud - ond debyg fod modd ymchwilio'r cyflwr, unwaith i chi gyfarwyddo â hi, a darganfod pethau annisgwyl am eich hun, trwy'ch hun (am dermau dryslyd!) Er engraifft, falle ddylwn i 1) bod yn llai parod i feio Sioned am unrhyw 'chaos' yn fy myd, a 2) mynd ati i gymoni'r dror dillad isaf.

4 Sylwadau:

At 9:18 PM, dywedodd...Blogger Nic

Annifyr i ti, ond profiad diddorol iawn i ddarllen amdano. Erioed wedi cael hyn, a ddim moyn chwaeth diolchynfawriawnitiamgynnig, ond dw i wedi cael ambell i ffreuddwyd lucid ac mae rheini yn wych.

 
At 1:11 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Cwl - pan o'n i'n chwilio'r wê am wybodaeth ddoe ddes i o hyd i lot o stwff am 'out of body experiences' a breuddwydion lucid - megis hwn: http://members.aol.com/psiflyer/dream/explorer6.html
Fydden i 'di sôn am e ddoe, ond o'n i'n ofn 'se Gwahanglwyf yn galw fi'n hippie ;)

 
At 1:11 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

This comment has been removed by a blog administrator.

 
At 4:06 PM, dywedodd...Blogger Ray Diota

Ges i hyn nithwr. Rili trio codi o'r gwely, ond ffacin methu'n lan... er bo fi'n meddwl bo fi'n clywed ffenestr y stafell wely'n cal i dorri a fi jysd yn styc yn f'unfan! Sgeri, braidd.

Wedyn bore ma eto, yn diwedd es i nôl i gysgu a deffro'n hollol siwr bo fi eisoes wedi cael y morning urination and toothbrushing session a bo fi di gwisgo 'fyd... ond on i ddim... rysho wedyn!!! Profiad annifyr... ych.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre