13.5.05

Lomoluniau


Hwre - ma'r lluniau fuon ni i gyd yn tynnu ar helfa Lomo Calan Mai wedi eu datblygu ac oll i'w gweld ar wefan y gymedithas Lomo (dolen uchod - fi yw cystadleuydd 56 os chi am gael pip.) Dyma'r tro cyntaf i fi ddefnyddio camera lomo (a'r tro cyntaf i fi dynnu lluniau heb gamera digidol ers sbel - fel mae'r marciau bawd yn tystio!) Y cymryd rhan sy'n cyfri ondife?!
Y cyfan sydd i wneud nawr yw dewis lluniau i gydfynd a'r 8 thema rhoddwyd, ac yna bydd lluniau pawb yn cael eu arddangos yn y Sherman ar Fai 28. Fi am gynnwys y llun uchod yn y categori 'freestyle' - allwch chi ddyfalu beth yw e?!

4 Sylwadau:

At 12:41 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Gwydryn gwin yn cwmpo?

 
At 12:43 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Nyp...

 
At 4:22 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Tap!

 
At 11:02 AM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Yup. Seren aur i ti *

 

ychwanegu sylw

<< sia thre