28.6.05

Innocent


Allai gyfri'r cwmni 'ma fel un o brif-achosion fy nhlodi diweddar - ond och, ma'u suddoedd nhw'n fendigedig, a se'n i'n eitha bodlon treulio post cyfan jyst yn clodfori'r 'juicy water'... Ond diben y post yma yw rhoi dolen i wefan hyfryd y cwmni, sy'n manylu eu ymgais i gynnal egwyddorion busnes mor ddiniwed â'u sudd (dyw'r ymadrodd ddim yn trosi, nag'yw?!)

Ta beth, cerwch i fusnesa, mae'n llawn pigion bach diddorol, fel y gampfa rhithwir.

2 Sylwadau:

At 8:11 PM, dywedodd...Blogger Mari

Www innocent, neis! Ma gennai eu llyfr suddoedd nhw - mae o mor ddoniol â'r wefan ac yn cynnwys diod rhubarb and custard a banana and peanut butter...ddim cweit mor neis â'r rhai ti'n gal yn y siop de! Weles i wsnos dwytha fod Somerfield Dolgelw yn gwerthu nhw rwan, gwareiddiad wedi cyrraedd Meirionnydd o'r diwedd...

 
At 9:52 AM, dywedodd...Blogger cridlyn

Ach! Fi'n dwli ar eu smwddi mefus a banana (hanner pris yn Nhescos ar hyn o bryd) ond alla' i'm diodde' pa mor cutsie yw'r carton!

'No GM products* (*or you can tell our mums)'

Hala fi lan y wal.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre