24.6.05

NLP

Am 6.55 bore Sadwrn diwetha, dyma fi'n neidio ar dren i Lundain i fynychu cwrs undydd 'Right-Brian Scriptwriting' dan arweiniad Jurgen Wolff. Mae syniad Wolff yn deillio o dechneg seicolegol NLP, neu neuro-linguistic programming - sef yr ymgais i greu math o 'llaw-lyfr' neu 'rhaglen' i chi fedru deall a manipiwleiddio eich ymenydd. Yn yr achos yma - y nôd oedd defnyddio'r dechneg er mwyn bod yn well awdur, ond mae gan NLP amcanion amrywiol eraill, fel rhoi'r gorau i smygu, neu delio ag iselder o achos trauma personol.

Un o'r pethau cyntaf i Wolff drafod oedd pwysigrwydd breuddwydion, a'r holl syniadau sy'n amlygu'n naturiol wrth i ni ymlacio i gyflwr isymwybodol; diben ei dechneg ef yw darganfod ffordd o gysylltu'r storfa greadigol isymwybodol gyda'r meddwl ymwybodol. Yn fras te, 'nethon ni dreulio'r dydd yn ymlacio, cau llygaid, a'n derbyn arweiniad Wolff trwy'n synhwyrau i ddarganfod lluniau cyflawn o gymeriadau neu sefyllfaoedd. Ar un adeg, 'nath e ofyn i ni ddychmygu camu mewn i berson arall a nodi sut oedd y corff newydd yn eistedd yn wahanol, y llais newydd yn swnio'n wahanol; pam oedd y person yma yn dal ei hun ffor'na, a felly sut deimlad yw bod Mr.X... Dwy ddim yn berson hynod agored, ac yn ystod yr ymarferion teimlo o'n i 'mod i'n creu yn ymwybodol yn hytrach 'na'n datgelu rhywbeth isymwybodol, ond rhaid cyfaddef i mi ymlacio erbyn diwedd y dydd, a mae'n hawdd gweld sut bydd ymarferion fel'ma yn helpu creu llun llawnach pan ai ati i greu cymeriadau yn y dyfodol.

Ta beth, wedi eistedd yn y swyddfa am wythnos ers 'nny, wy 'di bod yn chwilio am fwy o wybodaeth ar NLP yn gyffredinol - ac mae'n debyg fod y term yn meddwl bach o bopeth i bawb... sy ddim yn helpu. Mae'r esboniad lleia dryslyd i'w gael ar wefan The skeptic's Dictionary, syrpreis syrpreis. Ar y llaw arall 'nes i fwynhau darllen y 'tiwtorial' yma. 'Sen i byth yn mentro ymuno â'r rhestr bostio, ond ma arddull eratic y boi yn hilariws.
...using NLP to find and discharge so called "negative blocks" can be very helpful. I remember when I was learning NLP, my teacher did a technique on me - one of the techniques from so-called NLP New Code (see books by Robert Dilts). It was the last thing for the day, class was over, so I said good bye and left. And then as I was walking towards my car I have noticed that I am a little bit jumping, you know. And laughing. And singing. Which is like totally not my style of walking, by the way. And for the next 30 minutes I felt better than ever in my life and I mean it. I - see, I am still smiling when I think about it.

Duw a wyr os wy 'di dysgu taten, ond wy 'di dod o hyd i gymeriad bach diddorol bydde dim ots 'da fi gamu mewn iddo tro nesa gai b'nawn bach sbar.