Gwers Arlunio 1
Darlun wedi ei wneud gyda dranau gwahanol trwch o dâp du. (Mae'r model yn sefyll o flaen easel, rhag ofn i chi boeni fod hi'n crogi neu rhywbeth....!?)
Wel fe ddaeth y wers gyntaf, a bwriad yr athro oedd ein cael ni i werthfawrogi mai 'ond "cynrychiolu" mae darlun. Roedd e wedi blino ar weld pobl yn gaeth i'w papur yn canolbwyntio ar fanylion golau/ cysgod/ tebygrwydd, sy'n gallu peri i chi golli golwg o gyfanrwydd yr hyn o'ch blaen. Llwyddiant y tâp du yw'ch bod chi'n gallu ei ddal fyny yn yr aer o'ch blaen a fframio'r siap y'ch chi am ei greu, yna troi'ch corff, a sticio'r siap i'r papur - dyna be wnes i ta beth.... Mae'n biti na chafon' ni amser i wneud mwy (roedd y boi'n darlithio am rhyw dri chwarter awr cyn i'r model fynd i'w phose...) ond rwy'n falch ei fod e wedi dechrau'r tymor gyda'r fath ymarfer sy'n gofyn i bawb yn y dosbarth ddechrau o'r newydd, a meddwl mewn ffordd gwahanol am yr hyn ry'n ni'n gweld.
2 Sylwadau:
Hoffi'r llun. A'i yn Neuadd Llanofer mae'r cwrs? Mae ffrind i mi wedi dechrau cwrs 'Dalrunio Byw'[?] yno nos Fawrth. Jenny yw ei henw, mae gan hi wallt mawr cyrliog brown tywyll ac yn dysgu Cymraeg.
Na, un UWIC yn Howard Gardens 'yf fi'n mynychu. Odd Clint clwb yn arfer mynd i'r un yn Llanofer though...
ychwanegu sylw
<< sia thre