30.11.05

Gloeuadau Nadolig Llawen!


Neges gan e-chlysur Menter Caerdydd...
Yn dilyn ymholiadau gan gwsmeriaid y llynedd, mae gan Ganolfan Arddio Caerffili gyflenwad o oleuadau 'Nadolig Llawen' arbennig.

Y pris yw £19.99, eu maint yw 80cm x 40cm a gellir eu defnyddio tu fewn neu tu fas.

Ffoniwch 02920 861511 neu www.caerphillygardencentre.co.uk
A cyn i chi boeni, kitsch yw nhw - nid taci ;)

4 Sylwadau:

At 10:53 PM, dywedodd...Blogger Rhys Wynne

Ti di curo fi yn blogio am hwn. Fi dynodd y llun. Os ewch i ganolfan arddio Caerffili, byddwch yn siwr o faglu dros focs un o'r rhain. Mi wnaethon nhw holi'r cynhyrchwyr am un, a'r amod oedd eu biod yn derbyn 200 ohonynt.

 
At 5:48 AM, dywedodd...Blogger Chris Cope

O ie. Mae rhaid i fi cael un ohonyn nhw.

 
At 2:56 PM, dywedodd...Blogger Chicken Legs, Twm and The Kid

Jiw, weles i rhain yn y ganolfan arddio rhyw fis yn ôl, dwi'n siwr fod Mam yn bwriadu prynu un. Fel dywed Blogel mi oedd pop math o oleuade'n rhy taci cyn hyn i fy annwyl Fam ond nawr i fod e'n Gymraeg ma fe'n a-oce.

 
At 1:38 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Newydd glywed fod rhai ar gael o Siop Gymraeg Caban ym Mhontcanna hefyd... £25 o fan'na - sy'n fargen ...ym Mhontacanna.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre