26.10.05

Gwersi Arlunio 3 a 4





Mae'r gwersi arlunio bywyd yn parhau...

Dwy wythnos, a dau lun tra wahanol. Cafwyd dull tipyn mwy rhydd yn y drydedd wers wythnos diwetha', â disgwyl i ni greu llun trwy rhwygo a glundo papur tissue du i'r cefndir. Ymarfer eitha' diddorol, ond sai wir yn gwerthfawrogi'r fath yna o arddull. Mae'r athro'n mynnu fod angen i ni stopio meddwl yn nhermau tebygrwydd, a chanolbwyntio ar elfennau fel siap a golau, a bydd y tebygrwydd yn dod yn amser ei hunan, mae'n gyngor eitha' doeth am wn i. Ta beth, neithiwr, am y tro cyntaf mewn 4 wythnos, cafon' ni ddefnyddio pensil! Er mwyn anhwyluso pethau, o'n i 'ond yn cael ei ddefnyddio ar ddarn papur oedd wedi'i liwio gyda wash ysgafn, ond roedd e'n sicr yn teimlo fel mwy o her na'r glud a'r papur tissue. Dwy ddim yn hollol sicr am goes blaen fy narlun (a 'nath y pose newid ychydig ar ôl rhyw awr, gan ychwanegu ail foch pen ôl lle oedd 'ond un i gychwyn...) Ond mae dod, weden i, yn slo fach.