24.11.05

Fillipo the Fish

Rwy’n siwr i fi ddweud rhywbryd o’r blaen am y tro es i i’r City Arms ‘da ffrind oedd yn sgwennu llyfr, ag iddo lwyddo’n argyhoeddi i fod y plot yn canolbwyntio ar bysgodyn oedd yn tyfu coesau ac yna’n dechrau seiclo...? Chi’m yn cofio? Wel eniwe, cellwair oedd e – ond gan ‘mod i wedi derbyn y cyfan mewn naifrwydd pur, ‘nath e sgwennu’r stori ta beth, a nawr ma’ honno ar y wê i chi gyd gael ei fwynhau. Am awr fach o ddifyrrwch, cerwch i wefan Spoiled Ink, chwilio am Gary Raymond, ac yna darllen Fillipo the Fish.

Gol: ma fe 'di ychwanehi stori newydd erbyn hyn, Limpieza de Sangre.