28.9.04

Chundain

Oce te, es i i Lundain i ddathlu pen-blwydd Susan (Snoosan), ferch annwyl iawn o'n i byw gyda hi am gwpwl o flynyddoedd yn Coleg. Lot o wynebau rwy heb eu gweld ers blwyddyn, a lot o syllu'n syn at y goleuadau llachr/ posteri mawr glossy/ bechgyn sy'n dalach na fi! (Dyw e ddim fel 'se fi'n gawr yw hi!) Anyway, Inferno's oedd pen ein taith Nos Wener - ac mae'r lle'n haeddu'r enw! Bach o gaws yn dda i bawb bob hyn a hyn though... weden nhw!

Dydd Sadwrn, 'nes i symud lan o Clapham i Belsize Park (swnio'n posh? ma' fe) i aros gyda Jen a'i chasgliad o ffrindiau cool, tres 'London' - Beks, Cocos (sp? mae'n enw Almaeneg...) ac Andreas! O'n i'n teimlo'n reit bumpkin, ond hei, llai'm help 'ny. Es i a Jen i siop gelfi anhygoel yn ystod y dydd - lle oedden nhw wedi gwneud ymdrech i addurno'r lle i gyd-fynd â 'design week' (ma pob wythnos yn rhywbeth week yn Llundain, yn ôl y sôn) ac roedd y cyfan just yn hynod, a'n ddrud iawn iawn.

O fan'na, bach o siopa yn Covent Garden, ac yna allan gyda'r nos i noson o'r enw 'Scram', mewn clwb tua seis y Goat (bechod) ym Mhiccadilly (lovin' the treiglad.) O'n i ar ddeall mai Drum & Bass oedd hi i fod, fyse wedi bod yn fine, ond ges i siom ar yr ochr orau â'r amrywiaeth gafom ni yn y pen draw. Tim oedd ar y decks rhwng acts - a mi 'nath e agor ei set gyda fersiwn 'King Coconut' o Beat It - aeth e 'mlaen i whare mix ei hun o'r Killers, ac yn bach o Mylo a lot o stwff arall 'nath Dwlwen fach yn hapus hapus iawn! Ynghyd a'i arlwy e, gafon ni setiau MC gan (... addo ffindo ma's, oce!) a rhyw foi bach ciwt oedd yn medru beat-box-io a gynigodd y cyber-style-blues number mwya hynod i mi glywed erioed - roedd y bachan yma wir yn impressive, 'se'n i'n gwybod ei enw, fysech chi'm yn clywed diwedd ei glodfori gen i, ond, ummm, o'n i ar y fodka! Anyway, roedd hi'n wych, â chlo'r noson gan Lazy Habits, yna mwy o diwns gwallgo Tim, yn werth aros tan 4 amdani!

Wele luniau...








2 Sylwadau:

At 12:56 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Drist i glywed dros y penwythnos fod y bocsys teleffôn wedi eu ail-paentio'n goch erbyn hyn :(

 
At 9:42 AM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Ma'r dirgelwch wedi'i ddatrys! Undercoat yw'r pinc :D

 

ychwanegu sylw

<< sia thre