28.9.04

Gweithdy Sgriptio

Iei, un cam bach arall tuag at peidio teimlo fel fraud llwyr sy'n honni bod hi'n sgwennu ond yn 'neud braidd dim go iawn â geiriau ond mwydro ar y (ffecin) wê! Ma 'na un gweithdy arall yng Nghaerdydd - Nos Lun nesa, rwy'n credu - a rhagor yn cael eu trefnu ar hyd a lled Cymru. Ewch, da chi, os oes gennych chi ddiddordeb mewn sgwennu creadigol - mae'r awyrgylch yn anffurfiol neis, a'r cyfle i drafod syniadau gyda Eryl yn galonogol dros ben.

2 Sylwadau:

At 7:38 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

He he - falch dy fod ti ar y pel Ifan (o bosib y cyfieithad gorau/gwaethaf eto...) Eniwe, well i ti rhoi ring i Eryl ar y rhif sy wedi nodi ar Pictiwrs.com, achos mae'i e-bost e braidd yn orphwyll ar hyn o bryd.

 
At 8:00 PM, dywedodd...Blogger Nwdls

Dwi'n mynd ar gwrs datblygu a sgwennu "thrillers" dydd Llun a dydd Mawrth felly allai ddim mynychu hwn. Ond, woo hoo iddi! Ddwedai'r cwbl wedi i fi ddychwelyd, dwi mor ecseited ag o'n i pan ges i skateboard dolig ar ol gwylio back to the future! (wel, ddim cweit...)

 

ychwanegu sylw

<< sia thre