12.10.04

Wythnos ar 'i hol hi

Wel, fuodd y cwis yn lwyddiant! Roedd y dafarn fach ny orlawn, a rhai o'n pyntars ni'n gorfod eistedd ar y llawr chwarae teg. Gobeithio ddeith hyn yn ddigwyddiad cyson - ni dal yn trafod y peth, ond mae'n sicr fod digon o gefnogaeth a diddordeb. Diolch bobl peniog Cymru fach ; )

Dyma'r rownd gwybodaeth cyffredinol i chi, a cwpwl o luniau o'r noson.


1. Beth oedd enw llong Captain Cook?
2. Gweithiau gan ba fardd o’r Bedwaredd Ganrif ar ddeg yw ‘Troilus and Creseyde’, ‘The Paliament of Fowls’ a ‘Boetheus’?
3. Enwch brif-ddinas Paraguay.
4. Ym mha ddinas gafodd y Titanic ei adeiladu?
5. Pwy yw Prif Weinidog yr Eidal?
6. Duwies beth oedd Nike?
7. Am ddyfeisio beth mae Percy Shaw yn enwog?
8. Merch i bwy oedd Siwan, gwraig y Tywysog Llewelyn ap Iorwerth?
9. Beth yw enw mwy cyfarwydd Dioxiribo Nucleic Acid?
10. Pwy faeddodd Scott of the Antarctic i Begwn y De?








4 Sylwadau:

At 10:51 AM, dywedodd...Blogger cridlyn

Se'n i'n gweud mai'r atebion yw Beagle, Chaucer, Asuncion, Belfast, Berlusconi, Buddugoliaeth, Llygaid cath, Brenin John, DNA ac Amundsen, ond fi'n athrylith, so dder.

Hefyd, hoffaf fynegi fy anfodlonrwydd at y diffyg lluniau o'r anhygoel Ddisg-droellwr Ceri Gravy. Mae e cymaint gwell na N*Y*R*D...

 
At 11:52 AM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Sboilsbort!

Llun smouldering wedi'i ychwanegu'n sbeshial i ti felly ; )

 
At 12:17 PM, dywedodd...Blogger Nic

Wyt ti'n hollol siwr am gwestiwn dau? Dw i ddim yn athrylith (ffyc, dw i'n ffaelu sillafu athrylith), ond sa i'n credu oedd yr hen Sieffre o gwmpas yn y 12fed Ganrif.

 
At 5:10 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Diolch Syr! Mae'r cwestiwn wedi'i newid - fi sy'n rhech a'n methu deall y busnes dyddiadau 'ma... 'Nath Gwahanglwyf sylwi'r camsyniad noson y cwis whare teg.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre