Ashokan2
Mae Ashokan wedi recordio ail albym, â'r teitl llawn-dychymyg yw Ashokan 2. Bydd e yn y siopau ar Rhagfyr y 6ed - felly mynnwch gopi gan Santa nawr. Dyma sy gan Dockrad i ddweud:
Ti’n gwybod fel mae, ti’n aros 7 mlynedd am album Ashokan, a mae 2 yn cyrraedd
yr un flwyddyn! Wele Ashokan yn ôl gyda’u hail album, ASHOKAN 2.
Recordiwyd yr album yn stiwdios Mighty Atom yn Abertawe yn ystod Hydref 2004,
gan Joe Gibb. Mae’r album yn cynrychioli’n well eu sŵn byw sydd wedi ennill
nifer o edmygwyr dros y flwyddyn diwethaf.
A os chi dal yn darllen, dyma sy gan Dwlwen i ddweud...
Mae’r flwyddyn diwetha wedi bod yn brysur iawn i’n hen ffrindiau o Don-Teg, Ashokan. Ers rhyddhau Diolch am ddal y Gannwyll dechrau’r flwyddyn, mae’r band wedi gigio tan iddyn nhw igio, a thrwy pherfformio angerddol maent wedi argyhoeddi sawl fod dyfodol y Sîn ROC Gymraeg yn ddiogel. Mae teulu’r ‘khan wedi estyn ymhell, ond mae dal gwaith perswadio gan yr ymhonwyr ifanc i’w wneud. Gyda ASHOKAN 2 mae’n amlwg fod y bois yn barod i brofi’u hunain.
Mae’r anthem agoriadol yn gyflwyniad da i albym trymach, llawnach, gwell. Gyda chur y drwm, bass trwchus, gwichian gitars ac allweddell llawer mwy mentrus ynghŷd a gwaeddu a sgrechian di-drugaredd y lleiswyr, mae’n ddigon i godi ofn fod Ashokan o ddifri. Ond na phoener – dy nhw heb angofio’r brif-gynhwysyn: â thoc swmpus o gaws cawn ein ‘Diolch am ddal y Gannwyll’ wrth i lais melfedaidd y DJ gwadd gyhoeddi enw’r trac. O hyn allan, sain tipyn mwy cyfarwydd sydd â ‘Kill the Old Guard’ yn gwireddu potensial ffynci y band tra fod ‘Coes Goch’ yn cyflwyno elfen mwy ‘bluesy’ i’r arlwy aeddfedach. Mae’r daith tuag uchafbwynt yr albwm, ‘Dim Coes dim Brêc’ yn un bywiog, â’r band yn ein cam-arwain hyd nifer o droeon bach difyr sy’n profi gallu’r cerddorion a’u cwmpas eang.
Yn sicr, mae Ashokan2 yn dod a gwên i’r wyneb (yn enwedig o gyfuno’r gerddoriaeth egniol â’r esboniad gwallgof o thema’r albym ‘gysyniadol’-honedig sy’n y clawr.) Ond ma ‘na wastad ond, ac wedi rhyw dri gwrandawiad gan chwerthin at holl ffrynt ac agwedd y peth, rhyw ddryswch sydd yma ynglŷn â ‘beth mae’r band actiwli eisiau’i ddweud?’ Oes unrhywbeth i ddweud? Oes rhaid dweud unrhywbeth? Oes angen ateb?! Am y tro, mae rhwygo’r stigma ‘band-recordio-mewn-cwpwrdd’ cynt yn rhacs tra’n cynnig ffwc o gic tin i’r Sîn Roc yn hen ddigon o gyflawniad. Gobeithio fod Cymru’n barod...
4 Sylwadau:
Ramirez yma.
Adolygiad da. Dwi wrth fy modd efo'r albym :-D!!!
A hei, dydi'r dyddiad yn Aberystwyth efo Eryr ddim i fyny efo gweddill taith y Khan ;-)!!
Bolycs. Sori Ramirez - 'nai olygu yn y fan...
Ramirez.
No wyris. Dani wedi gorfod tynnu'n ol eniwe. Gaaaaah!!!
(Bob yn chwarae yn lle ni os ti isho adio hynna!)
Pawb yn iawn?
Hwyl
A fi dal heb ffecin newid hwn Aaaaarrrrgggh
Fory, addo. Addo addo.
Pawb yn ticety-bw jolch, gobeithiaf eich bod chi a'ch tylwyth yn cadw'n iawn Syr :)
ychwanegu sylw
<< sia thre