2.11.04

Blog Bridget?



Ges i alwad ffôn ddoe i ofyn o'n i am fynd ar Wedi 7 er mwyn sôn gymaint wy'n unieithu â ystrydeb hon.

Help?

3 Sylwadau:

At 11:46 PM, dywedodd...Blogger Nwdls

Ond beth yw dy ddeilema Dwlwen?! Liar or Lawyer?

 
At 1:35 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Wel, ar hyn o bryd y dilema yw ceisio gweithio mas sut yn union ma creu delwedd 'bach llai arwynebol o'm hun na'r argraff sy'n amlwg gan Wedi 7 (grrr.)

Gyda llaw, 'nes i wrthod 'neud... a rhoi rhif ffon ffrind i nhw yn lle, he he he.

 
At 5:39 PM, dywedodd...Blogger Nwdls

O, y siom! Pwy a wyr, galle fod wedi bod yn gychwyn ar fywyd glamorous yn arwres cyfres deledu newydd - Dyddiadur Dwlwen (yn y Ddinas fawr Ddrwg).

"Yr wythnos hon: mae Dwlwen yn trefnu cwis yn y Goat ac yn parhau i bendroni dros ei sgript newydd. Ond ai Liar neu Lawyer fydd yr antagonist/love interest ac a fydd Hugh Grant yn gallu gwneud acen Trelai? Tiwniwch mewn nos Iau..."

Ai can si ut naw...

 

ychwanegu sylw

<< sia thre