10.12.04

E-Lên

Wy mewn mood i ddianc heddi (eto) felly dyma rhestr o rhai o'r cronfeydd o "e-lên" wy di dod o hyd iddyn'nhw.

Cronfa Prifysgol Pennsylvania
Catalog Alex
Llen o Iwerddon
ac o Ewrop
Rhamantiaeth
a'n ola bach o Athroniaeth

Ond, i fod yn hollol onest, o'n i'n gwybod mai un paragraff ac un paragraff yn unig fyse'n neud y tro i fi heddi, felly dyma'i chynnwys hi...


But she was becoming conscious of her husband looking at her. He was smiling at her, quizzically, as if he were ridiculing her gently for being asleep in broad daylight, but at the same time he was thinking, go on reading. You don't look sad now, he thought. And he wondered what she was reading, and exaggerated her ignorance, her simplicity, for he liked to think that she was not clever, not book-learned at all. He wondered if she understood what she was reading. Probably not, he thought. She was astonishingly beautiful. Her beauty seemed to him, if that were possible, to increase.

Yet seem'd it winter still, and, you away,

As with your shadow I with these did play,

she finished. "Well?" she said, echoing his smile dreamily, looking up from her book. As with your shadow I with these did play, she murmured, putting the book on the table.


Mae To the Lighthouse (Woolf, 1927) yn un o'n hoff lyfrau, a'r rhan yma sy wastad yn dod a'r ing o golled i fyw yn fy nghof. Rwy'n un o'r bobl yna sy'n poeni am bob dim - yn mynd o flaen gofid a dychmygu sefyllfaoedd sy brin yn dod i sylwedd. Yma, mae'n rhyfedd sut mae'r gwr, Mr. Ramsay, yn troi'i wraig yn eiddo, yn defnyddio ei ddychymyg i fanipiwleiddio ei rhinweddau tan ei fod e'n fodlon â'i lun ohoni. Maen hapus ym myd ei feddwl tan i'r ergyd gyfrin daro; tan i eiriau rhyw fardd arall leisio'r gwir boenus. Dyw'r 'eiddo' ddim dan ei feddiant, dim ond ei chysgod.
Rhywffordd, ma hynny'n gysur i mi! Er holl wybodaeth a balchder Mr.Ramsay, mae'n methu'r hyn sy dan ei drwyn tan fod hi'n rhy hwyr (wele'r bennod ola ond unl: "he looked as if he had become physically what was always at the back of both of their minds--that loneliness which was for both of them the truth about things.") A dyna ddweud i'r darllenwr, fi, i gallio a chamu mas o'r bybl; i stopio pryderu am yr hyn sy gen i'm grym i'w newid... So dder.

Falle'i fod e'n amlwg erbyn hyn, ond ydw, rwy lawr gyda Iser pan mae'n dod at ddehongli Llenyddiaeth ;)

6 Sylwadau:

At 12:11 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Wrth gwrs bod 'na berthynas rhwng y darllenydd a'r awdur, neu'r darn o lenyddiaeth; fel arall, beth yw diben llenyddiaeth? Bod yn inc ar bapur a dim mwy?

 
At 3:33 PM, dywedodd...Blogger Chicken Legs, Twm and The Kid

Diolch am y paragraff na, a diolch am agor fy llyged at awdur a llyfyr arall y dylse fi ddarllen. Mi wyt ti'n dweud ma dim ond y paragraff yma a wnelo i ti heddi, deall yn iawn be ti'n feddwl. Does dim un llyfyr sy gen i dwi'n fynd nol ato dro ar ol tro ato ond dwi'n cadw ffeindio pytie bach sy'n clicio tu fewn i mhen i, dyw e ddim bob tro'n lyfyr mi alle fe fod yn sticer, hysbyseb neu ballu. Yn amlach na dim, cerddoriaeth sydd a'r un effaith arna i, fel rhywfath o 'soundtrack to our lives'. Newydd ddechre ar lyfyr gwych a ffindes i mewn siop lyfre fach yn Abertawe, Norwegian Wood gan Murakami Haruki. Yn y tudalennau agoridaol ma fe'n siarad am bwer atgofion, llyfyr reit hudol.

 
At 6:33 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Blog heb enw - diolch am dy sylw. mae'n ddoniol sut y'n ni'n bachu ar bytiau bach o ystyr i'n cynnal ni weithiau - fysen i'n cytuno mai cerddoriaeth sy'n mynd a'mryd i amla 'fyd, ond o rhan yr ystyr ni'n ei ddehongli ma rhywbeth mwy personol am y modd fyddwn ni'n dod a bywyd i eiriau ar ddalen... sai'mbo, well fi gau lan cyn i Criddle ddechrau gwaeddu 'to ;)

 
At 10:23 AM, dywedodd...Blogger Chicken Legs, Twm and The Kid

Dwlwen, dos dim ishie i ti fod yn dawel, Mr Criddle sydd di dal bach o bah humbug yr Wyl dwi'n feddwl. Un sylw bach arall, ai jyst da fi ma hyn yn digwydd - dwi yn y car, y radio'n chwarae crap, mewn hwylie reit dda a ma na gan obscure od dwi heb i glywed ar y radio ers amser yn y mhen a ma fe'n dod ar y radio! Gwneud y diwrnod yn werth chweil wedyn :)

 
At 1:14 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Hmmmm, parthed caneuon ar y radio - ma rhywbeth neis am sut ma nhw'n dal ti'n annisgwyl... Ond me'n gallu gweithio'r ddau ffordd - o'n i mewn dagrau wrth i gân newydd Elbow(?!) whare wythnos diwetha.

 
At 10:50 AM, dywedodd...Blogger cridlyn

Glo yn hosan y ddau ohonoch chi, fi'n credu...

 

ychwanegu sylw

<< sia thre