25.11.04

Fideo Hud

Gan 'mod i'n dwli ar Ffilmiau byrion a cherddoriaeth gyyyyymaint, ma cyfrwng y 'fidio bop' wastad wedi apelio. Cyfunwch hynna gyda'r iaith Gymraeg a llai'm derbyn cyfrifoldeb am fy ymddygiad... Dros yr wythnosau diwetha mae Bandit wedi bod yn atgyfodi hen fidios pop Cymraeg - oherwydd y penderfyniad dadeuol i ddarlledu 'ond hanner gynta'r rhaglen ar S4C analog, 'mond un neu ddau o'r hen fidios 'ma wy 'di'u gweld - ta beth, mae'n bleser hel atgofion, a rhaid canmol y sylw mae Bandit wedi tynnu at y gyfrwng. Drwy sifftio goreuon y gorffenol mae gosod safon i'r presennol, a felly mae fidios llawn-dychymyg a chreadigrwydd newydd yn cael eu creu, megis 'Diwrnod Braf Saizmundo' (cyf: Dafydd Wyn) a'i ddarlledwyd ar y rhaglen wythnos diwetha. Gobeithio bydd fidio Tricky Nixon heno yr un mor addawol, yfe...

Yn yr archif wythnos yma, ma modd gweld fidio 'Maes-e' gan Datblygu. Pleidleisiwch. Thankiw.

1 Sylwadau:

At 4:56 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Hawdd pleidleisio, fel fi 'di neud, MT, ond anos yw gwylio. Ffycyrs. Myddyr-ffycyrs.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre