Siopa Dolig Sioned-Style
Helo bobl, gai fod yn domestig am ysbaid? Oce te. Ddoe es i a’n cyd-letywr/tŷ-ffrind/ffrind-tŷ (housemate yn Gymraeg?) i siopa Dolig yn siopau elusenol Heol Ddwyreiniol y Bont-Faen, Treganna, Caerdydd, a jiw gefon ni fargens! Mae’n ffordd wych o gadw costau’r Wyl yn ‘u lle, a’n hwyl anhygoel, heb son am ddiddorol ar y naw. Ymysg y siopau gorau oedd y Shaw Trust, PDSA a’r hen ffefryn Oxfam. Roedd amrywiaeth o declynau quircky yn Shaw Trust, er engraifft, a temptiwyd Sioned gan ‘gwasg drowsus’ (?) hen-ffasiwn £5, oedd yn anghredadwy o giwt, tra mod i’n glafoeri dros ddresar allen i’m fforddio hyd yn oed ar bris ail-law... Ddes i adre a 15 (rhifwch nhw!) 15 llyfr ‘newydd-ish’ – gan gynnwys ‘The Dalkey Archive’ gan Flann O’Brien sy ‘di bod ar y rhestr-ddymuniadau ers aaaaachaaaau a’r llyfr mwya anhygoel i fi ddod ar ‘i thraws ers oes: ‘The Book of Lists’. Ma Sionyn Nionyn yn dweud fod Waterstones yn gwerthu cyhoeddiad cyfredol y gyfres, ond well gen i o lawer y gyfrol 1978 ges i ddoe – ac rwy ‘di hen osod ystr sentimental i’r cyflwyniad sydd ynddo “Now you can have as much fun as me, love Dave.” Wel diolch Dave.
Fy Nhrysorau. Bydd dolenni i wefannau'r elusennau gwahanol yn dilyn, ynghyd â dolenni i wybodaeth ynglyn â'r ddwy adroddiad uchod os oes rhai, ond wy ar gyfrifiadur Mam a Dad am yr wythnos nesaf - sydd wedi ei brofi gan wyddonyr i fod Cyfrifiadur arafaf y byd, f.a.i.th., Felly byddwch amyneddgar.
3 Sylwadau:
Dere draw i Albany Road os ti am siope elusen. Wir nawr, sai'n bod yn blwyfol, ond mae nhw ddeg gwaith yn well na rhai Cywbrij Roood Iiist.
Eiliaf, ond ti ddim mor debyg i ffeindio CDs Tystion ochr na o'r afon, nag wyt?
Cytuno â'r ddau o'chi - ma trip i Albany Road ar y gweill yn y flwyddyn newydd.
Odd y pentwr mawr o CDs Cymraeg yn Oxfam Treganna - fi'n ffurfio theori fod benni hyll 'di bod yn off-loadio (all-lwytho?!) ei freebies (rhad-ac-am-ddims?!) cyn Dolig... *winc awgrymog*
ychwanegu sylw
<< sia thre