5.2.05

Does dim esgus am yr hyn sydd i ddilyn, ond ‘nai fentro bethbynnag…

Mae wedi bod yn hen bythefnos brysur i mi o rhan gwaith, a’r prosiect diweddara’ sgen i i geisio’i ddatod yw ‘event analysis’/ dandansoddiad digwyddiadau (?) ar gyfer cyfres ddrama sy’n cael ei ddatblygu.

Reit, ma hyn o fudd i unrhywun sy’n sgwennu unrhywbeth yn greadigol. Dogfen i ddadansoddi holl ddigwyddiadau pwysig eich stori yw’r ‘event analysis’ – felly yr hyn sydd gen i yw taflen excel ag arni golofnau: Golygfa, Digwyddiad, [blwch unigol i bob prif-gymeriad], Pwysigrwydd, ac yn ola’ Ymateb y gynnulleidfa. Y nôd yw darganfod bob digwyddiad pwysig, nodi effaith y digwyddiadau ar bob cymeriad (boed hi’n ddigwyddiad allanol, mewnol, neu yn un sy’n arwynebol ddibwys ond yn gosod sail bwysig am ddatblygiad hwyrach…) a felly, dod i ddeall eich cymeriadau a’u datblygiad ar hyd y stori gymaint a hynny’n well. Erbyn i mi ddod i ben â’r ddogfen, gobeithio byddai’n gallu defnyddio’r wybodaeth rwy’n ei gasglu i dwtio’r sgriptiu sydd wedi eu sgwennu, ac i osod y stori nôl ar y trywydd cywir (h.y. mae pennod gyntaf y gyfres, fel ag y mae, yn wych, ond mae’r penodau sy’n dilyn colli cyfeiriad rhywsut.)

Dyma’r math o waith ‘wy wrth fy modd gydag e, peidiwch a chamddeall, ond Iasu mae’n gofyn amynedd (heb sôn am ymroddiad i stori sy’ ddim wir yn perthyn i chi!) Ond mae wir yn werth gosod tasgau gwrthrychol o’r fath yma i’ch hun, ac mae’r holl wybodaeth sy’n dod i’r golau yn medru gofyn/ ateb cwestiynnau holl-bwysig fydd yn gefn i ddatblygiad unrhyw syniad, a’n sail hefyd i ddogfennau fel triniaethau, sy’n ofynnol os fyddwch chi eisiau gwerthu eich syniad i gynnulleidfa (a dyna’r pwynt wedi’r cyfan…)

Felly, at beth mae holl draethu ‘ma yn esgus? Wel, y gwaith yma ‘nath f’arain at y dacteg gwyro (diversion tactic?) mwya dibwys i mi’u goncoctio ers achau, o bosib erioed, (a credwch fi, wy’n ffaffwraig o’r radd eithaf…) Gosodiad: lle fysai Van Gough wedi cyrraedd ‘se fe ‘di troi’i frwsh a’i gynfas i’r neilltu, a defnyddio rhaglen ‘paint’ yn lle…? Sori.