11.1.05

Y Ffilm Fer (honedig) gan Dwlwen - Rhan 2 1/2

Ar ôl ceisio bob 'distraction technique' posib, 'nes i gyflwyno triniaeth y Ffilm fer, oedd yn peri bach o broblem i fi, just cyn Dolig - o. r. d. .i. .w. .e. .dd. Dyma chi bytyn o'r driniaeth - fel math syniad o'r hyn sydd angen ystyried cyn strwythuro ffilm fer.
Dehongliad: Mae’n stori am y panic llwyr o sylweddoli mai chi’ch hun sy’n gyfrifol am eich bywyd, mewn cyd-destun stori gariad. Mae am ddryswch merch di-gariad – a’i greddf mai’r ateb i’w dryswch yw dod o hyd i rhywun, unrhywun, i’w charu; felly ei modd o ddatrys ei hofn o fod yn annibynol, yw dibynnu – rhannu’r faich o gyfrifoldeb. Ond, mae’i dychymyg wedi argyhoeddi hon fod ‘cariad mawr’ yn bod – ac mae ganddi duedd anhwylus o gofio’r ddelfryd yna wrth godi mewn gwely dieithr y bore wedyn.

Pwy yw’r prif gymeriad?
Megs. Merch yn gymdeithasol yn ei ugeiniau cynnar. Mae ganddi gefndir o daflu’i hun i welyiau dynion, ac yna difaru – rhyw syniad ganddi nawr mai’r dynion anghywir/ adeg anghywir oedden nhw – yr oll sy angen arni yw dod o hyd i’r 'un'.


Beth yw nod y prif gymeriad?
Peidio bod ar ben ‘i hunan.
Cyrraedd y ‘Cariad mawr’ – bod gyda’r ‘un’.

Pam ei bod hi mo’yn hyn?
Efallai ei bod hi braidd yn ofn o’i hun – mae’n sicr yn well ganddi fod mewn torf na chwmni hi’i hun, ac mae’n cuddio tu nôl disgwyliadau ac ystrydebau eraill ohoni i raddau.

Beth yw’r rhwystrau sy’n sefyll yn ei ffordd?
Dyw hi ddim wir yn gwybod beth mae mo’yn. Mae’n taflu’i hun at sefyllfaoedd er mwyn gwneud, heb ystyried y canlyniadau tan rhy hwyr.

Pam fod hyn yn digwydd nawr?
Mae’n ddiwedd ar yr holl strwythurau gofalgar (teulu, ysgol, coleg) mae plant yn gyfarwydd â nhw.
Hwn yw dechrau ei ‘bywyd’ go iawn – mae ganddi swydd ddechau, a thŷ newydd. Ond, mae’n unig bod yn anibynnol

Beth yw’r gost moesol?
Cywilydd, a sylweddoli’r gwir ei bod hi’n fwy unig ym mreichiau dyn di-nod na byddai pe tai’n gwynebu hi’i hun.

Y cam nesa yw rhannu'r stori (os oes gynnych chi un!) i dair rhan -
Dechrau (lle mae'r prif gymeriad yn darganfod ei nôd)
Canol (lle maent yn sylweddoli'r nôd yna)
Diwedd (lle maent yn ymdopi â chanlyniadau'r gwireddiad.)

Nai'm mwydro pawb da'r stori gyfan, ond os gofiwch chi'r syniad wreiddiol o'n i'n ceisio'i ddatod, dyma sut mae'n eistedd, ar ddiwedd y ffilm, nawr.
Diwedd:
“Breuddwyd arall oedd hi - yn cuddio dan gynfas wen. Golau’r haul ar wely gwyn, yn goleuo dy gorff di wrth fy ymyl – dy gefn wedi troi. Allai gofio’r cyffro cyn i ti ddeffro; mil ar fil o frawddegau’n gwthio fel gwaed o gysgod calon i gefn fy ngwddf. Ond rwy’n cadw’n dawel i wrando ar donnau ysgafn dy anal. Yna’r tawelu, a’r cyfan yn toddi tu ôl curiad didrugaredd y glaw ar fore newydd. Syched boenus sy’n fy neffro. Mae’n fore arall, a breuddwyd arall oedd hi. Gwely arall yw hon.”

Mae Megs yn agor ei llygaid a’n gwenu wrth i rhywun gusanu ei gwddf. Mae ‘na law yn mwytho’i braich yn dyner, ac mae’r stafell yn gynnes dan olau llachar yr haul. Mae Megs yn troi i ateb y gusan, ond dim ond clustogau sy’ lle fu corff ei chariad. Mae’i gwen yn troi’n ochenaid ofnus wrth iddi chwilio am yr atgof yn ei gwely, ond does dim byd yna. Dim ond mwgwd yn gorffwys ar ei gobennydd.

Mae’n agor ei llygaid eto i weld y bore dan olau oeraidd y gaeaf, mae corff Mei wrth ei hochr a’i gefn wedi troi. Mae’n syllu arno am ysbaid, cyn crynnu a troi’i chefn hi hefyd.Toc, mae’n egluro i’r gyrrwr tacsis pa heol adre fysai orau – mae’r gyrrwr tacsis yn egluro fod hi’n siarad trwy’i thin “Confused is it? Three pick-ups this morning, all just as ‘confused’ as you...”


Mae'n ddechrau o leia, a wy bach yn gliriach o be wy mo'yn dangos diolch byth! Y cam nesa yw i ddrafftio'r sgript - hynny yw strwythuro'r stori sy gen i rhyw 10 golygfa, neu 'cam', sy'n penodi taith Megs: yr hyn mae mo'yn, a'r hyn mae'n ei ddysgu.

Fory falle...