11.1.05

Pheeeeeew

Wel, mae wedi bod yn gychwyn annisgwyl o brysur i'r flwyddyn newydd chez Dwlwen, felly ymddiheuriadau'n gyntaf am dawelwch (gymharol) fy mysedd bach ar yr bysellfwrdd, a'n ail am y llithoedd driblus sy'n bownd o ddilyn!

Rrreit te, 'nai ddechrau drwy sôn am be wy 'di bod wrthi a lle wy arni - er lles fy nghof i gymaint a'ch diddanwch chi, felly chi 'di'ch rhybuddio.

Ar ôl rhyw 8 mis yn gweithio fel ymchwilydd, daeth contract y gaethes fach i ben jyst cyn Nadolig, felly o'n i braidd yn betrus ddechrau'r flwyddyn, yn bennaf am fod dim arian yn dod mewn ond hefyd am 'mod i wedi dod yn ddibynol braidd ar fy ngweithle fel modd o gynnal y 'prosiectau all-gyrsiol' ma wy di'u mabwysiadu a'u meithrin dros y misoedd diwetha... O'n i'n amau fyse trefnu gigs, cwis a gwefan 'bach yn anodd heb y rhyddid mynediad i'r wê oedd y swyddfa'n 'i gynnig - diolch byth am lyfrgelloedd yfe. Falle mod i'm cweit mor wybodus am ddatblygiadau Garej Dolwen ag odd 8 awr ddyddiol o Maes e 'n ei ganiatau - ond hei ma rhaid i ni gyd 'neud aberthion. Eniwe, dwy heb weld ei eisiau gymaint ag o'n i'n disgwyl - ac er mod i'n teimlo bach yn euog am gynlleied o gyfraniad wy 'di 'neud i wefannau fel Pictiwrs ac Unarddeg yn ddiweddar, wy'n addo AR FY LLW(y/ lletwad) i 'neud ymdrech arbennig unwaith i fod Siarc Marw a'r llu brosiectau eraill allan o'r ffordd...

So dyna ni ddatblygiad #1 Siarc Marw (Siarcus Moria) Mae'r Bachgen o Bontllanfraith wedi dweud hen ddigon am ei ffansin gelfyddydol newydd ar ei flog - felly doswch yno i weld ei gynlluniau, ac yna gyrrwch eich cyfeiriad e-bost i siarcmarw@yahoo.co.uk a 'newn ni archebu copi i chi, a'i ddanfon yn rhad ac am ddim dechrau'r mis nesaf.

Mae datblygiad #2 yn arwain 'mlaen o'r gweithdy sgriptio fynychais i Hydref diwetha, a'r triniaeth ffilm fer gafodd 'i dderbyn gan y cynhyrchwyr wythnos diwetha (mwy i ddilyn am 'wnna...) Yn fras, mae Cwmni Opus wedi derbyn comisiwn i gynhyrchu 7 ffilm fer - mae'r cyntaf o rhain yn yn mynd i gael ei ddatblygu o syniad wreiddiol gan un o ddisgyblion Ysgol Llanhari - a pwy sy'n cael helpu datblygu'r syniad? Hmmm, yup, fi! Ar ôl gweithdy yn yr Ysgol ddoe, bydda i a Mistar Phillips o Opus yn mynd ati wythnos nesaf i sgwennu rhywfath o sgript... Mae'r disgyblion llawer hapusach wrth weithio felly yn hytrach na'n byrfyfyrio, felly er bo ni'n gobeithio fydd y ffilm orffenedig yn eitha rhugl o rhan deialog, mae angen cadarnhau'r camau cyn disgwyl i'r prif-gymeriadau fagu'r hyder i ddatblygu o'r man cychwyn yna... Ni'n gobeithio ffilmio ar ddiwedd y dair wythnos. Cyffrous iawn, ac eto gulp.

Felly dyna sy'n dwyn fy amser dyddiau 'ma ar y cyfan - mae'n werth cofio hefyd am y noson Pictiwrs yn y Pyb sydd ar y gweill a Chwis Dafarn Ionawr - SY' NOS FORY! Dyna ni â'r bwletin am y tro, bicai nôl â stwff mwy penodol yn y fan.

Cheerio

*m