Un bach arall yn sydyn...
Heia, jyst i atgoffa pawb fod y Clwb Cymraeg yr orsaf Radio GTFM (lle oedd Sleifar yn DJo gynt) yn dal i ddarlledu bob Nos Fawrth yn ardal Pontypridd ac ar y wê. Er sefyllfa anheg ymadawiad Steffan Cravos, mae'r rhaglen yn dal i haeddu ein cefnogaeth; mae'r cyflwynwyr newydd, wedi'r cyfan, 'ond yn gwneud eu gorau i barhau â gwaith Steffan o hyrwyddo'r iaith mewn ardal gymharol ddi-gymraeg. Mae'n werth gwrando wythnos nesa hefyd er mwyn clywed cyfweliad Edryd Vaughn â Gruff Rhys, ynglyn a'r albym newydd, 'Yr Atal Genhedlaeth', ac i glywed ambell gân o'r gampwaith.
Gallwch chi wrando o wefan yr orsaf, sef http://www.gtfm.co.uk/
7 Sylwadau:
Gruff RHYS. Philistiad.
wps
Oes archif 'da nhw? Hynny yw, fydd yn bosibl i glywed y cyfweliad rhywbryd arall ond ar y nod Fawrth? (Mae CYD yn cwrdd yn Aberteifi nos Fawrth. Yn y Llew Coch, os wyt ti'n darllen hyn a digwydd bod yn yr ardal. O, diolch, cymera i Guiness, ie.)
Fe fyddai'n recordio'r peth OS fyddai'n cofio a wedyn ei newid i ffurf mp3. (dafydd t yw hwn gyda llaw, heb gyfri blogger ar hyn o bryd)
Wnes i wrando arno heno. Mae'n hilarious - dwi ddim yn gwybod eu henwau nhw, ond mae yna un boi sy'n swnio fel Chris Needs ifanc, merch sy'n hoffi bathu termau Cymraeg newydd o hyd fel "prenio mlaen" (log on), a boi arall (fe yw Edryd?).
Wnes i recordio'r peth o tua 8.40 a wnaethon nhw chwarae un neu ddau can Gruff Rhys ond wythnos nesa (Ionawr 25) mae'r cyfweliad.
dafydd
Gwrando ar hyn nawr, diolch i dafydd am yr MP3.
Edryd yw'r enw Cymraeg cwlaf yn y byd.
Mae Edryd yn ifyl, ond yn annwyl iawn. Falch bo chi 'di joio :)
ychwanegu sylw
<< sia thre