5.2.05

Siarc ar y glorian

Reit, gyda copie rhifyn cyntaf Siarc Marw bron mas o’r ffordd, wy'n dechrau meddwl am beth y'n ni di'i gyflawni, a beth sydd angen gwella... Oleia nawr fydd gyda ni’r golygyddion (y boss a fi), a’n darllennwyr, bach mwy o syniad lle ni’n anelu – a dyna fues i’n myfyrio heddiw. Y nôd, hyd y gwela i, yw ysgogi diddordeb yn y celfyddydau a’n diwylliant ni’r Cymru, gan bwyntio’r ffordd at lu o ddrysau (lled agored) mewn i’ch maes dewisol.

Mae’r ffansin yn gynrychiolaeth o un ffaith y’n ni’n ceisio sefydlu ynddi, sef nad oes angen lluchio arian at rhywbeth er mwyn cyrraedd safon. Yn amlwg ma ‘na wendidau – dyw’r erthyglau heb cael ‘u cyflwyno’n ddigon da yn unigol, a falle fod gormod o neidio rhwng pynciau. Do’n i erioed eisiau bod yn bopeth i bawb – nag eisiau canolbwyntio ar gyrion cyfyng ein meysydd arbenigol(?!) ni’n hunain chwaith; mae ymchwilio diddordebau newydd yn rhan o’r her mae’r ffansin yn ei osod i ni’r cynllunwyr, fel y chwi ddarllenwyr. Ond, ar y cyfan, wy’n hapus gyda’r ystod o feysydd sy’n cael eu hymdrin, a’n sicr ein bod ni wedi gosod sail ddeche i adeiladu arni. To ddy batcave Criddle…