29.6.05

Megs

Dyna teitl y ffilm fer. Bach o cop out falle, ond gallai draethi am sut ma'r enw'n adlewyrchu agweddau 'lluosog'/dau-wynebog fy mhrif gymeriad os chi wir mo'yn cyfiawnhad. Neh? Fine.

Unrhyw gyfle i wisgo làn, ac mae Megs yn ecseitio’n lân! Mewn parti gwisg ffansi, hi sy'n mynnu sylw pawb wrth chwarae gêmau â’i gwesteion. Ond dyw cuddio tu ôl mwgwd ddim yn mynd i ddenu dyn ei breuddwydion; a dyw breuddwydio mewn gwely dieithr ddim yn ddigon i guddio realiti ei hunigrwydd. Mae’n bryd i Megs ddangos ei gwyneb, ac estyn allan i afael yr hyn mae wir mo’yn.
Wedi cael cipolwg ar yr offline bore ddoe (h.y. y ffilm wedi ei olygu, ond heb ei ddybio'n iawn eto.) Mae'n plesio mwy nag o'n i'n ei ddisgwyl (ond roedd gen i ddisgwyliadau erchyll, chwarae teg!) Wy'n barod i ymlacio tipyn bach amdani - ond dim ond tipyn bach cofiwch.
Wnes i sgennu ffilm fer (Brawd a Chwaer) pan o'n i dal yn y Coleg, a mater o drosglwyddo'r syniad a'r sgript drwy e-bost oedd hynny. Roedd hi'n sioc fawr i weld y ffilm gorffenedig misoedd ar ôl i mi orffen pendronni am y sgript - roedd hi'n hollol wahanol i'r syniad oedd gen i yn fy mhen. Allai ddim penderfynnu ai'r sioc sydyn yna, neu'r broses araf o drosglwyddo 'Megs' i ddwylo'r cyfarwyddwraig, sydd lleia creulon. Yr ail oedd anoddach, yn sicr, ond rwy wedi dysgu lot fawr am ofynion y Cyfarwyddwr, yr Actorion, a phawb sydd ynglwm â chynhyrchu ffilm... a ches i 'rioed cyfle i wahodd ffrindiau i neud ffyliaid o'u hunain fel ecstras ar 'Brawd a Chwaer'.