29.7.05

Beicio a Flann O'Brien


Gan fod y crwtyn o'r cwm yn cadw mynd 'mlaen a 'mlaen am wychrwydd ei bennyfarthing newydd 'se'n i'n teimlo braidd allan ohoni heb gynnwys rhywfath o deyrnged i drafnidiaeth ddeu-olwyn... Problem yw, er 'mod i wedi buddsoddi mewn beic (/pentwr o grap) pan o'n i'n Coleg, ac wedi chwarae gyda'r syniad o seiclo nôl a 'mlaen, mae dal yn well gen i gerdded o un lle i'r llall pan dwi mewn dinas brysur - felly anaml, dyddiau 'ma, geith yr annwyl feic outing o'r cwtch dan stâr.

'Nai wyro am eiliad (och y pynio!) i nodi hefyd fod greddf ddwysach yn atal fy nefnydd o'r hen farch fetel. Nid fy meic i yw hi. Er mai pentwr o grap oedd gen i ers Coleg, 'nath rhai o rascals Glanrafon benderfynnu 'i dwyn hi o Heol Neville, felly ers 'nny, beic mynydd porffor Dad sy gen i - â chloch bach ar yr handle bar yn dweud 'I *calon* my bike'. (Ma Dad yn hynod hyderus o'i rhywioldeb, fe welwch.) Ac er mai pentwr o grap (#2) oedd y beic brynnais i o Heol Cowley yn Coleg, fy mhentwr o grap i oedd hi - ffurfiwyd berthynas unigryw o agos rhyngom, a bydd hi byth 'r un fath 'da beic rhywun arall...

So eniwe, nôl a ni at y pwnc. Hen beth od yw'r berthynas rhwng beic a'i berchenog, a dyna maes ymchwil mwya digri un o'm hoff awduron erioed. Llenor a Newyddiadurwr o Ddulun oedd Brian O'Nolan (1911-1966), oedd yn ysgrifennu dan yr enwau Flann O'Brian neu Myles na Gopaleen ymysg eraill. Roedd e'n gweithio fel Gwâs Sifil o ddydd i ddydd, a dyna'r rheswm am y ffugenwau am wn i. Daeth 'Myles' i wydd gyhoeddus* drwy'i golofn wythnosol, hynod o ffraeth a swreal, yn yr 'Irish Times'. Erbyn heddiw, enw 'Flann' yw'r mwya cyfarwydd, oherwydd y nofelau gwallgo' ac arabus sgwennodd yn y Wyddeleg ac yn Saesneg. Y gorau o rhain, yn fy marn i, yw 'The Third Policeman', stori am lofruddiaeth a ffawd y llofrydd, sy'n mynd o'r trywydd er mwyn portreadu'r cariad dyner sy'n datblygu rhwng dyn a'i feic.

Dyma ddisgrifiad bach o wefan Disinformation
It's a world where the policeman spend their time stealing bicycles, to limit the amount of atomic transference between humans and their modes of transport . . .
Mae'n stori anhygoel, hefyd, oherwydd y modd mae'r awdur yn ymyrryd yn gynyddol ar y brif-stori orffwyll gyda nodiadau dadansoddol am athronydd dychmygol o'r enw DeSelby a'i theoriau gwallgo'. Cewch chi ddarllen pwtyn o'r nofel ar hellshaw.com. Gwnewch plîs!


*Debyg o fod yn hollol anghywir yn ramadegol, ond 'sei'n cwl bathu ymadrodd sy'n dyblu fel 'public knowledge' a 'the public goose'.

4 Sylwadau:

At 1:32 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Mae dy dad yn hynod hyderus o'i rhywioldeb? Oes 'na rywbeth ti heb ddatgelu fan hyn, Mair?

 
At 1:58 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Geraint,

fuodd e'n reido beic i ferched â chloch bach sy'n gweud 'I *calon* my bike' arno am flwyddyn. Byddai dynion gwanach yn cilio o wneud - ond roedd Syd yn hapus ei fyd. Fe yw y Dadi. Paid a trial bo'n glefar.

 
At 3:05 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Y threiglad, fenyw, y threiglad!

 
At 4:36 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Ngeraint - sai'n galler dreiglo.
Gad fod :(

 

ychwanegu sylw

<< sia thre