28.7.05

Beth sy'n digwydd?

Peidiwch a gofyn i fi. Rhywffordd neu gilydd mae'n teimlo fel petai'r wythnos yma wedi rhuthro heibio a 'ngadael i yn fy ngwely yn dal i riddfan trwy poen yr hang over ddwbl p'nawn Sul. Dechreuodd yr 'hwyl a sbri' nos Wener, gyda trip i weld 'O'r Neilltu', cynhyrchiad Cwmni Theatr 3D, yng Nghanolfan Chapter, Treganna. Hwn oedd ail ddrama wreiddiol y cwmni, a cynhyrchiad tipyn mwy mentrus na'r cyntaf, 'Endorffin'. Golwg ar deulu drwy feddwl gwib y fam oedd sail y ddrama. Roedd y cymeriadu yn llwyddiannus ar y cyfan, a'r stori'n ddigon diddorol i fynnu sylw; ond, roedd 'na wendidau o ran amwysedd y stori yna, a theimlad cryf erbyn y diwedd na chawn ni ond ddyfalu beth oedd 'O'r Neilltu' eisiau i ni feddwl. Ond chwarae teg, llwyddodd yr actorion greu fflachiadau o sefyllfaoedd reit gryf yma ac acw - trawsnewidiad esmwyth Nia Wyn Jones (23) i hen fenyw yn ei phumdegau, er engraifft, ac un golygfa le roedd y pedwar actor arall oll yn fabanod dan 8 oed. Doedd hi ddim yn sioe ddifyr, yn yr un ystyr ag 'Endorffin', ond roedd hi'n fenter dewr gan gwmni ifanc, a braf iawn oedd gweld hynny ar lwyfan.

Hen ardd gwrw slei sy'n Chapter - bob tro ai yno, dwy methu gadael tan bod rhaid. 'R un hanes oedd hi eto wedi'r ddrama; bu ymgomio a chlocio chlawen... tan hwyr... iawn.

Mae gen i duedd reit annoying o ddilyn y nosweithi hwyr 'ma â chyfarfodydd di-angen o gynnar bore Sadwrn. A dyma fi'n llusgo'n hun o'ngwely am 8 diwrnod wedyn, er mwyn sobri mewn da bryd i gwrdd Siwan, fy chwaer, am goffi yn y dre. Pan symudais i i Gaerdydd gynta, bues i'n byw gyda Siwan yn ei thy bach twt ger Llandaf - 'nath e ddim weithio. Ar yr olwg gynta', ry'n ni'n eitha tebyg: cwrtais, tawel, a'n gwenu lot (cywirwch fi os wy'n rong...?) ond mae 'na un wahaniaeth pwysig (sy'n mwy ffyni yn Saesneg, so ffyc it): when it came to self-discipline, I stuck to the shallow end of our gene pool. Badwmtcha - Diolch i Colin Greenwood* o Radiohead am y ddelwedd yna, a diolch i chi oll am eich cymeradwyaeth. Eniwe, canlyniad y gyferbyniaeth oedd rhwystredigaeth, ar 'y'n rhan i, oherwydd bod rhaid sticio at house rules a bod yn ferch dda am gyfnodau llawer hirach na' sy'n bosib i Dwlwen. Fues i'n blentyn drwg. Lot. So, eniwe, rheswm y gwyrad 'na odd esbonio 'mod i nawr yn teimlo ddylwn i 'neud ymderch i fihafio yng nghwmni big sis, a siwr o fod dyna pam rwy'n trefnu 'i chwrdd hi'n gynnar a'n ymdrechu'n wythnosol yn erbyn bwystfilod yr hang over. 'Se'n i'n synhwyrol, 'se'n i'n aros mewn nos Wener, neu'n gadael y parti'n gynnar, ond Damn it, Mog*, I just can't do it... ah well.

Ta beth, wedi crwydro rownd dre drwy'r dydd a gwario ffortiwn yn sgil fy medd-dod, roedd hi'n bryd am barti. Merched 3D a'i drefnodd, a hoffwn i ddiolch iddyn nhw am ddarparu 5 potel o fodka a Duw a wyr faint o wîn tuag at y punch. Meddwais, Heddwyn, a mwydrais yn llon. Mae'n iawn - diben Duw wrth greu Dydd Sul oedd gorffwys.

Felly pam, oh pam, wnes i drefnu dwy awr o ymarfer corff gyda Siwan yn y p'nawn?! Aerobics a Yoga - Iasu, dodd dim lot o siap arnai, ond hei, wy'n browd 'mod i heb hwdi 'rol yr awr gynta - sticiwch at y pwyntiau posotif, ife. D'ife.

Wnes i oroesi, o leia. A dilynodd wythnos o waith gymharol brysur, sy'n lleddfu erbyn heddiw (hence muchos mwydring.) Bron yn wicend nawr, a bron iawn yn Steddfod 'fyd! Cewn ni drip arall i Chapter Nos Fory i weld Dramau Beckett, cwrdd Siwan am 12 (wy'n dysgu...) Dydd Sadwrn, wedyn pacio a threfnu'r cwis ag ati cyn gyrru lan yr A470 bore Llun.

*odd e'n sôn am virtuosity Johnny ar y gitar o gymharu a'i allu fe i twango'r fas... Select, c1998
*enw dyddiadur Mair... 1999? Odd gen i rhai o'r enw Ellie a Geoff 'fyd.

3 Sylwadau:

At 3:06 PM, dywedodd...Blogger Siôn

Siawn/Siwan - Siwan/Siawn.
Pa un sy'n iawn?

 
At 3:29 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Prawf-ddarllen fy mlog cyn postio?! Ti'n gofyn y lleuad ar ...erm ...ffon. Golygaf.

 
At 4:33 PM, dywedodd...Blogger Siôn

Wel ma neges fi jyst yn edrych yn wirion nawr ondiwe.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre