13.7.05

Oxegen 2005 - yr adroddiad hirfaith

Ma cyffro’n cael effaith od ar ferch; tan fod cychwyn taith bws am 5 bore Gwener yn ddim trafferth o gwbl. (Noder fod dal bws am 5 yn gofyn i ti ddihuno am 3.30 – noder hefyd, felly, fy mod i a Sioned yn ferched hardcore o’r radd eithaf...) Dwy erioed wedi bod mewn stad digon ymwybodol i sylwi ar y ddinas ‘r adeg yna o’r bore o’r blaen, ond tro ‘ma dyma ddirgeleddau newydd yn dod i’r wyneb. Mae camu strydoedd gwag prifddinas wastad yn brofiad rhyfeddol, ond gyda’r haul yn gwawrio a’r meddylfryd ‘holidê’ wedi cydio ni’n dwy, roedd hi’n anodd stopio gwenu. O ffenest y bws dyma ni’n gweld bwnis Caerdydd am y tro cyntaf – degau o’r creaduriaid bach wrth ymyl heol Leckwith a’r cylchfannau allan i’r draffordd - yn bwydo’n y gwair gan syllu’n ddryslyd fel petai bws oedd y peth rhyfedda i’nhw weld. Dal awyren am 7, cyrraedd Belfast am 8.10. Erbyn 10 ro’n ni mewn caffi ar Woodstock Road (yn yr ardal Brotestant) yn bwyta Bacon Soda, a’n chwerthin at y trend gwallgo o enwi siopau sy ar waith yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n debyg fod siop trin gwallt yn Lisburn erbyn hyn o’r enw ‘Kurl up and Die’ – enw sy’n methu’r pun wreiddiol yn hollol, ond sai’n gwybod, ma rhyw ffraethineb tra wahanol iddi yn fy marn i, fersiwn o’r un hunan-watwar amddiffynol sy’n nodweddi ymateb ffrindiau di-duedd o’r ardal yr adeg yma o’r flwyddyn wrth iddyn nhw chwerthin am y baneri, y coelcerthi a’r sôn am ‘twelfth burgers’. Ond roedd hi’n amlwg mor falch oedd Rachel na fydde hi ar gyfyl y brifddinas ddechrau’r wythnos wedyn.

P’nawn dydd Gwener, dyma fi a Rachel ymadael â Sioned, oedd ar ei ffordd i dreulio’r penwythnos gyda ffrind ym Mhortadown. Bu Rachel yn astudio Saesneg gyda fi yn Rhydychen; ma’i ar fin dechrau cwrs MA mewn cyhaliadwyaeth amgylcheddol yng Nghaeredin (yup, dyna lle ma 3 blynedd o astudio llên yn arwain...) Trip cloi i nôl car Mam o Donnaghadee, yna ‘mlaen i dde Belfast i nôl y brawd bach, Mathew, a’i ffrindiau Cormack a Michael, a bant a ni dros y ffin, â llond car o fechgyn tal, cwrw tsiep a cherddoriaeth uchel, uchel iawn.

Roedd hi wedi 9 unwaith i ni daclo ciw’r maes parcio, a’r ciw i’r maes pebyll, a’r ciw i’r toiledau ar y maes gwersylla.Yn ôl traddodiad, doedd y bogs ddim yn braf o gwbl – hyd yn oed ar y noson gyntaf – ond, fel petai ffawd yn mantoli’r anhegwch, dychwelais i weld fod y babell bron iawn fyny – o ddiolch i gydweithrediad gwyddel cyfeillgar o’r enw Kells. Doedd Mathew’n amlwg ddim eisiau campio wrth ymyl ei chwaer fawr – “did you guys say you weren’t going to camp beside us?”/ well, umm, no Mathew, but.... chwarae teg ma’r boi dechrau dysgu sut ma bod yn subtle – felly ddiflannodd y tri yna tra mod i’n diodde’r toiled, a dyna’r ola i ni weld ohonynt, oni bai am un sighting bore Sadwrn a’r daith hirfaith, ag eto hwylus, yn ôl i’r Gogledd bore Llun. Ro’n i a Rache yn eitha hapus i fwydro yng nghwmni Kells dros gan neu bump o Miller. Roedd e wedi bod i’r wyl ddwywaith o’r blaen, ac roedd hi’n argoeli i fod yn benwythnos gwych.

Dihunais am 6 bore Sadwrn i swn echrydus glaw ar nylon. Caeais fy llygaid. Dihunais am 7 bore Sadwrn i swn echrydus glaw ar nylon. Caeais fy llygaid. Dihunodd Rachel am 9 bore Sadwrn i swn echrydus glaw ar nylon – a dihunais innai i’w darbwyllo fyddai’r glaw yn pallu cyn i’r maes agor am 12. Erbyn 10.30, ro’n i’n panico braidd am nad oedd gen i ‘r un waterproof ar gyfyl fy sach fach o eiddo. Ond ar ôl i ni fynd ati i wisgo ac agor can o gwrw brecwast, roedd yr olygfa wedi harddu tipyn – doedd hi ddim yn heulog, ond doedd hi ddim yn bwrw chwaith. Roedd hi’n orymdaith fwdlyd i’r maes, ond doedd neb wir yn poeni, am fod y miwsig ar fin dechrau.

Roedd 5 llwyfan ar faes yr wyl. Y prif lwyfan (bandiau enfawr fel Greenday, Foo Fighters, Snoop), y lwyfan tocynnau (bandiau mawr, ond ddim cweeeeit mor fawr fel New Order), y stafell werdd (naws mwy hamddenol yn ystod y dydd gyda actiaiu fel Suzanne Vega, ond mwy ritzy erbyn y nos gyda headliners fel Interpol a James Brown), y babell ddawns (cliw yn y teitl – Mylo, LCD Superstars, Prodigy) a’r llwyfan bandiau newydd (lle doedd y cliw ddim yn y teitl, gan mai yma berfformiodd The Go! Team, The Magic Numbers, The Tears a Super Furry Animals.) Yn ogystal a hynny, roedd ‘na ffair gyda olwyn fawr, log flume a reids Mad-Max-aidd gyda’r lluniau grotesgue o gyrff hanner-noeth flourescent dan ebychiadau fel ‘Wild’ a ‘Thriller’. Yn yr ardal yma, fel math o fraint arbennig, roedd caws wythdeg-aidd yn chwarae non-stop – megis Bon Jovi, Queen a’r gan ‘na o’r nawdegau cynnar ‘I’m a bitch, I'm a lover I'm a child, I'm a mother I'm a sinner, I'm a saint I do not feel ashamed ...’ (‘nes i jyst gwglo hwnna rhag ofn bo chi’n poeni ;) )

Yn fras, a hyd ag allai gofio, aethon ni o’r 747’s, i Kaiser Chiefs, i Biffy Clyro (impressif), i’r tent i gysgu/ cael cwrw te, i Snoop (holdup!), i Queens of the Stone Age, i Mylo (gwych gwych gwych), heibio Ksabian, i Interpol (lle fethodd batris y camera!) , i Greenday (odd ar ganol gwahodd randoms i’r llwyfan i chwarae eu offerynau – druan a’r boi odd wedi paratoi baner ‘I play guitar’ gafodd ddim ‘i ddewis – cyn cyfro ‘Shout’ gan Lulu ), i The Go! Team (dawnsio gwallgo), a chwpla dydd 1 yn y babell bandiau newydd gyda The Tears. Ro’n i yn y rhes flaen. Geith unrhywun sy’n gyfarwydd â fy nghariad at Suede ddychmygu fy ymateb at fod wyneb yn wyneb â hwn. ‘Se’n i wedi llesmair, ond do’n i ddim am golli dim. Ma Brett a Bernard yn amddiffynnol iawn ar y llwyfan (diolch am dwli cynnwys potel o ddwr dros y gynnulleidfa), yn enwedig wrth ddelio â recwests am ‘The Beautiful Ones’, ond hei, roedd hi’n berfformiad da iawn – â’r caneuon yn gweithio’n well nag o’n i wedi disgwyl, a fel wedes i, o’n i wyneb yn wyneb â bagl Bernard Butler – o’n i’m yn mynd i gonan.

Es i i’n ngwely sach gysgu yn fodlon fy myd nos Sadwrn.

Dydd Sul – roedd hi’n danboeth. Bronagh Gallagher, heibio’r Beautiful South (‘I love you from the bottom of my pencil case...), hanner cysgu drwy Rilo Kiley, i Humanzi/ Jackson United, i Suzanne Vega (nefolaidd o hyfryd), i Mundy, heibio The Streets, i rhywbeth wy methu cofio, i The Killers (piti am y sain), i’r gwair tu allan y babell ddawns tra fod LCD Superstars yn chwarae, i The Magic Numbers (hoedown!), i eistedd tu fas i’r babell werdd lle roedd Rodrigo y Gabriella (banjos at 5 paces), heibio’r Foo Fighters (ddim wedi fy nghyffroi i) a benni lan nôl yn y babell bandiau newydd yn barod i Super Furry Animals. Do’n i na Rachel erioed wedi gweld y band yn fyw – ach, aeth hi’n wyllt pan agorodd y set â ‘Slow Life’. Perfformiad anhygoel arall, a Gruff Rhys tipyn mwy cyfeillgar i gynnulleidfa’r babell na fu Brett y noson gynt. ‘Man don’t give a fuck’ oedd yr uchafbwynt, a joli reit ‘fyd! Mae’n siwr fod hyn yn digwydd ym mhob gig SFA, ond arhosodd pawb tan ddiwedd y credit-roll, yn gofyn am fwy, ond doedd dim fwy i gael, felly bant a ni i’r babell.

Bore Sul, roedd hi’n 9.10 unwaith i ni falu’r tent a chario’n bitsach nôl i’r car – a lo and bihold, roed Mathew, Cormack a Michael yno’n aros i ni, y bechgyn da! Bant â ni, yn gymharol ddi-hang-ofer, dan haul danboeth arall, yn eiddgar i gyrraedd y ffordd fawr lle fyddai’r awel iach yn iachau’n cyrff blinedig. Ond na. Wedi llwyddo bachu rhai o fandiau gorau a mwya poblogaidd y byd i chwarae’r wyl, ac wedi sicrhau penwythnos hwylus (‘blaw’r toilets) i bawb ar y maes, doedd y trefnwyr yn amlwg heb feddwl am fodd call o gael fyny at 60,000 o geir gwersyllwyr drewllyd allan o’u maes parcio a nôl ar yr heol i wareiddiad... 4 awr, bobl, 4 awr mewn fiesta heb air con, 4 awr o deithio modfedd ar y tro allan o fro’r portaloo a llosg haul, at lewyrch ddiymhongar yr orsaf betrol. Roedd ‘na gyrff wrth ymyl y ffordd. Gwelom ni un dyn crin di-dent ar sach gysgu yn sizzlo dan yr haul – es i allan, gan ein bod ni ar stop ta beth, i geisio darbwyllo’r boi ddyle fe symud i’r cysgod, ond doedd e ddim i weld yn deall rhyw lawer, felly gadael potel o ddwr odd y gorau allwn i ‘neud. Gobeithio ‘nath e oroesi....

Nôl yn y Gogledd ar nos Lun, dychwelon ni’r tri bachgen i’w perchnogion priodol (mae Mathew newydd symud allan o gartre’i rhieni am y tro cyntaf, a’n dechrau blwyddyn allan yn gweithio yn y Co-op a’n trombônio mewn band jazz yn Belfast – falle ddeith e i astudio Cerddoriaeth a Ffiseg yng Nghaerdydd ar ôl hynny.) Ddaethon ni o hyd i Sioned mewn bar yn Donnaghadee (roedd hi wedi teithio o Portadown i Bangor, ac yna i dre enedigol Rachel i ni gyd gael treulio noson yr 11eg yn bell o Belfast.) Ymunodd Andrew gyda ni yno – cyn-gariad/ffrind gorau/boi iawn – a chafwyd pizza, peint a golygfa rhyfedd o’r goelcerth yn llosgi ger caer y dref cyn i ni fynd i’n gwelyiau ganol nos.

A dyna ni ddiwedd y daith, a’r post maithaif i’r blog ma’i gynnwys ers ei eni (yw maithaf hyd yn oed yn air?) Ond odd hi’n wyliau da, a wy’n teimlo hiraeth yn barod. Mwy o’r gwyliau ‘ma a llai o ddesgiau llychlyd a chyfrifiaduron sy angen. Tw reit boi. Oxygen 2006 amdani.

2 Sylwadau:

At 12:17 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Waw! Nes i ddarllen hwnna i gyd! Odw i'n cael bathodyn neu seren neu rywbeth?

 
At 11:54 AM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Nyp - jyst rhyw 45 munud o ddifyrrwch ;)

 

ychwanegu sylw

<< sia thre