6.7.05

Sufjan Stevens


Dyma fi'n codi'n gynnar bore ma i ddrybowndio'n ffordd draw at y depot post i nôl y parsel sy 'di bod yno'n aros amdanai ers Dydd Llun. Parsel yn cynnwys albym diweddara Sufjan Stevens, 'Illinoise', oedd hi, ac o beth wy 'di clywed, mae'n dda iawn iawn iawn iawn iawn. Mae teitlau'r caneuon gallgof-o-or-esbonadwy, megis "A Short Reprise for Mary Todd, who Went Insane, but for Very Good reasons" yn ddigon difyr, ond ar ben hynny mae'r melodiau egniol a breuddwydiol, llawn harmoniau, wir yn codi calon (a roedd hi'n hen bryd i rhywun ail-greu hook 'Close to Me' The Cure gyda offerynau chwyth...)

CD braf a chyffrous dros ben. Ond i wneud pethau'n fwy cyffrous, 'nes i ddarllen bore 'ma fod 'Illinoise' wedi cael ei ohirio ddoe oherwydd problem gyda clawr gwreiddiol yr albym, sy'n cynnwys llun Superman yn hedfan uwchben Al Capone. Dyma darn gorau'r stori:
On the plus side, if you were able to order Illinois early, you've now got a nifty collectors' item in your hands.

Ho ho ho. Dyddiau braf.

4 Sylwadau:

At 5:06 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Shwt fath o beth yw e? Fi 'di diflasu braidd ar wrando ar yr un gerddoriaeth drosodd a throsodd (Bright Eyes a Shins yn ddiddiwedd yn ddiweddar) ac awydd prynu rhywbeth newydd?

 
At 1:30 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Mae'n rili rili rili rili rili dda, yn fy marn i - ond sai'n meddwl fydde fe at dy ddant di. Ges i CD Bonnie Prince Billy pw'ddiwrnod - lot mwy toned down na Sufjan, ond wy'n meddwl fydde ti'n hoffi fe. Os ti mo'yn bach o amrywiaeth, cer i brynu un o compliations 'Late Night Tales', neu 'The Golden Apples of the Sun', nnnneeeeu 'I Am the Resurrection: A Tribute to John Fahey' - ond so hwnna mas 'to.

 
At 4:35 PM, dywedodd...Blogger cridlyn

Wrandawes i tam' bach ar Bonnie Prince Billy yn Spillers pyddwrnod. O'dd e'n swnio'n iawn, ond diffyg sbarc yn 'y marn i. Wedi archebu'r CD 'ma off Amazon (bach o arian 'da fi'n sbar), felly falle geiff rhywun fargen mewn siop ail law yn y dyfodol agos!

 
At 5:03 PM, dywedodd...Blogger Chicken Legs, Twm and The Kid

Geraint, os wyt ti'n diflasu arni, pas hi mlaen ata i - newydd lawrlwytho un trac am ddim - The Man of Metropolis Steals Our Hearts. Fan-taby-dozy, gret styff.

 

ychwanegu sylw

<< sia thre