12.10.05

Llongyfarchiadau i Chris

'Nes i fwriadu sgwennu nodyn ddoe i groesawi Chris a sôn am y cyfarfod yn y Mochyn Du nos Lun, ond ym... bwytodd fy nghi e, Miss. Ond dyna chi sgwrs braf! Roedd hi'n ddifyr dros ben siarad Cymraeg â rhywun o gyd-destun mor hollol wahanol... cyn sylweddoli'n raddol nad oes neb mor wahanol a hynny go iawn. Ry'n ni i gyd yn caru Hywel Gwynfryn wedi'r cyfan...;)

Parch mawr i ti Chris am sylweddoli dy uchelgais, a llongyfarchiadau hefyd.

2 Sylwadau:

At 2:20 PM, dywedodd...Blogger Chris Cope

Diolch, Mair. A diolch am cymryd yr amser i cyfarfod gyda fi yn y Mochyn Du. Dw i'n siŵr bod y sgwrs wedi helpu fi'n ddirfawr ar gyfer fy nghyfweliad.

 
At 3:02 PM, dywedodd...Blogger Dwlwen

Yup - o'n i'n amau fydde hel clecs a chyfaddefiadau embarrassing fi a Geraint fod wedi gwneud y tric ;)

 

ychwanegu sylw

<< sia thre