20.3.06

P'nawn Llun

..A wele post bore Gwener ar y blog o'r diwedd! Ymddiheuriade - gan Blogger, nid fi. Debyg fod ambell i flog wedi bod 'out of action' ddiwedd wythnos diwetha oherwydd rhyw glitch technegol allai'm 'i ddeall. O wel.

Ta beth, wedi ailddarllen y pre-penwythnos post (isod), o'n i'n teimlo ddylen ddychwelyd 'ma i gymharu realiti'r wicend â'r ddelfryd oedd gen i'n gadael gwaith.

Penwythnos mewn, meddai hi! Yn darllen?! Wel do - lwyddes i 'neud cryn dipyn o ddarllen chwarae teg, ond byddai ceisio esgus fod hynny'n uwch ar yr agenda na i) guinness, ii) Fflur Dafydd a Supergene, iii) Sushi, iv) dawnsio'n sili, v)cwcan llysie, vi) syrthio ar fy nhin , neu vii) gyrru negeseuon testun meddw, yn gamarweiniol braidd. Ond rhaid oedd dathlu diwrnod Sant Padrig, a rhaid hefyd oedd mynychu gig hyfryd Fflur Dfaydd a'r Barf a Supergene. (Nid rhaid oedd y sushi, y guinnes, na'r syrthio bondigrybwyll - ond 'na ni, mae'r niwed wedi'i wneud nawr.) Ta beth, er mwyn dangos 'mod i'n edifar, 'nes i ddwyawr o aerobics a yoga yn yr athrofa neithwr. Heddiw, gwynegon - gwynegon da, ond gwynegon 'r un fath.